Pryder am wasanaethau bws gwledig yn Sir Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Yn nyffrynnoedd Cothi a Thywi yn Sir Gâr mae pryder y bydd y gwasanaeth bws arferol rhwng pentrefi gwledig yr ardal yn dod i ben fis nesaf.
Mae cwmni bysus Morris Travel wedi ildio eu cytundeb gyda'r cyngor, a bydd y trefniant yn dod i ben ar 19 Ionawr.
Mae ymdrechion ar y gweill i ddod o hyd i ddarparwr newydd ar gyfer yr wyth o wasanaethau.
Mae bws yn galw ym mhentref Cwmdu dair gwaith yr wythnos ar hyn o bryd, ac mae Hywel Jones yn ei ddal y tu allan i'w gartref er mwyn mynd i siopa yng Nghaerfyrddin.
Ar y daith awr a hanner mae'r bws yn casglu teithwyr yng Nghrugybar, Llansawel, Abergorlech, Brechfa a Nantgaredig.
Mae Mr Jones yn pryderu na fydd yna wasanaeth arferol yn y flwyddyn newydd.
"Ry'n ni'n ffodus yng Nghwmdu, ma' gyda ni swyddfa bost a siop, ond mae'n wahanol mynd i siopa yng Nghwmdu na Chaerfyrddin," meddai.
"Chi'n cwrdd â rhai, chi'n cael pryd o fwyd - mae'n ddiwrnod allan, yn enwedig yr amser hyn o'r flwyddyn pan fo'r dydd yn fyr.
"Mae'n neis cael mynd mas a chael cwmni ar y bws a chael sgwrs."
Yn ôl Cyngor Sir Gaerfyrddin, mae'r broses dendro ar gyfer y gwasanaethau hyn newydd ddod i ben, ac maen nhw wrthi'n ystyried y ceisiadau er mwyn ceisio dod o hyd i ddarparwr newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2015
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2015