Pryd wnaeth Santa droi'n Siôn?

  • Cyhoeddwyd

100 mlynedd yn ôl doedd Siôn Corn ddim yn bodoli. Roedd Santa Clôs yn ymweld â phlant ar noswyl Nadolig wrth gwrs - ond doedd neb bryd hynny yn defnyddio'r enw sydd mor gyfarwydd i ni heddiw.

Ffynhonnell y llun, GraphicaArtis

Roedd yr enw Santa Clôs wedi datblygu o Sant Niclas dros y blynyddoedd, fel mewn nifer o ieithoedd eraill.

Ar raglen Aled Hughes, fe eglurodd Myrddin ap Dafydd sut wnaeth un o'n caneuon Nadolig mwyaf poblogaidd greu'r enw Siôn Corn.

Mae Siôn Corn yn rhywbeth cynhenid Cymreig.

Mae gen i lyfr o ganeuon Cerddi Huw Puw gan J. Glyn Davies.

Roedd yr argraffiad cyntaf yn 1922 ac yn fan hyn mae'r gân Siôn Corn - 'Pwy sy'n dŵad dros y bryn' - rydan ni'n mor gyfarwydd â hi, fan hyn mae'n ymddangos gynta' - mewn casgliad o ganeuon i blant.

Yn y cynnwys mae'n dweud 'Siôn Corn', ac wedyn mewn cromfachau 'Santa Clôs Cymraeg'.

Siôn Corn y coblyn bach

Mae gan J. Glyn Davies nodyn wedyn mewn argraffiad arall lle mae'n sôn bod ei dad o yn defnyddio'r enw Siôn Corn pan oedd o'n hogyn bach.

Gafodd o ei fagu yn Lerpwl yr 1870au ac er mwyn cael J. Glyn Davies i'r gwely mi roedd yn dweud "mae Siôn Corn yn y simnai ac mae o'n gwrando ar bob dim ti'n ddweud".

Ac mae hwnnw'n draddodiad gwahanol fel rhyw fwddrwg - drwy'r flwyddyn mae'r Siôn Corn yma yn y simnai ac wedyn fasa fo'n ei wobrwyo fo drannoeth am fod yn dda drwy'r flwyddyn.

Felly rhyw fath o goblyn bach, ond un da. Mae Glyn yn meddwl tybed os oedd hyn wedi dod gan fam ei dad o, ei nain ochr ei dad - oedd yn dod o Edern.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Ac mae'r enw Siôn yn dangos mai cymeriad Cymreig ydi o.

'Dan ni'n dweud Siôn Barrug am y rhew, Siôn Heidden am gwrw, Siôn Gaddo am rhywun sydd byth yn cadw at ei air ac yn torri addewid.

Siôn Chwarae Teg am rhywun sy'n cadw'r ddysgl yn wastad. Siôn Llygad y Geiniog - enw da am gybydd.

A hwn dwi'n licio - enw gan y chwarelwyr yn Arfon am rhywun diog: Siôn yr Offis - doedden nhw'n gwneud dim byd yn yr offis nagoedd?! Ac wedyn mae Siôn Plesio Pawb, fel Sioni Bob Ochr.

Llyfr Mawr y Plant

Felly mae J. Glyn Davies wedi plethu be' bynnag gafodd o gan ei dad, a'i nain falle o Edern, efo'r traddodiad Nadoligaidd 'da ni'n fwy cyfarwydd ag o.

Ac felly mae Siôn Corn yn dod yn gymeriad Cymreig, yn enw Cymraeg ar Santa Clôs.

Mae Llyfr Mawr y Plant yn ymddangos yn 1931 ac mae ganddoch chi Llythyr Annwyl Siôn Corn, a defnyddio lluniau i greu pos geiriol - ac wedyn wrth gwrs dyna sefydlu yr enw yn y Gymraeg.

Wedyn mae'n cymryd tan 1939 i Siôn Corn ymddangos yn Cymru'r Plant, sef misolyn ar gyfer plant, ond ar ôl hynny mae Siôn Corn wedi ennill ei blwyf yn sicr yn y Gymraeg.

Pwy sy'n dwad dros y bryn

neu

Siôn Corn (Santa Clôs Cymraeg)

Pwy sy'n dwad dros y bryn,

yn ddistaw ddistaw bach;

ei farf yn llaes

a'i wallt yn wyn,

â rhywbeth yn ei sach?

A phwy sy'n eistedd ar y to

ar bwys y simne fawr?

Siôn Corn, Siôn Corn

Tyrd yma, tyrd i lawr!

*************************

Mae saith rhyfeddod yn dy sach,

gad i mi weled un?

a rho ryw drysor bychan bach

yn enw Mab y Dyn.

Mae'r gwynt yn oer ar frig y tô,

mae yma disgwyl mawr.

Siôn Corn, Siôn Corn. Helo, helo.

Tyrd yma, tyrd i lawr!

Efallai hefyd o ddiddordeb: