Shân yn achub y dydd!
- Cyhoeddwyd

Mae'r gantores a'r berfformwraig Shân Cothi wedi derbyn canmoliaeth ac edmygedd ei chyd-berfformwyr am ei pharodrwydd i gamu i un o brif rannau'r sioe Sweeney Todd yn Nhŷ Opera Zurich, gyda llai 'na 24 awr o rybudd.
Mae'r cynhyrchiad, sy'n cynnwys rhai o enwau mawr y byd opera, gan gynnwys Syr Bryn Terfel, ymlaen yn y ddinas tan 11 Ionawr.
Yn siarad gyda BBC Cymru Fyw o'r Swistir nos Iau, dywedodd Syr Bryn Terfel:
"Mi gyrhaeddodd Shân Zurich neithiwr am hanner nos, cyn dod yn syth i'r ymarferion fore heddiw.
"Wedi dim ond ychydig oriau o ymarfer roedd Shân ar y llwyfan gyda gweddill cast Sweeney Todd, ac yn chwarae rhan Mrs Lovett erbyn saith o'r gloch y nos.
"A beth sy'n anhygoel yw nad ydy Shân wedi chwarae'r rhan ers tair blynedd.
"Mae Shân wir wedi bod yn seren, ac ma'i wedi llwyddo i safio'r sioe ac wedi achub y dydd."
Pam y byr rybudd?
Fe gafodd y gantores sydd wedi bod yn chwarae rhan Mrs Lovett yn y cynhyrchiad, y mezzo soprano o Awstria Angelika Kirchschlager, ei tharo'n wael ar ddechrau'r wythnos ac roedd pryderon y byddai'n rhaid canslo gweddill perfformiadau'r wythnos.
Ond yn ffodus i griw Sweeney, roedd Shân eisoes wedi cyd-berfformio â Syr Bryn yn y sioe, a hynny ar lwyfan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 2014, felly dyma'r cynhyrchwyr yn mentro cysylltu â hi rhag ofn ei bod 'digwydd bod' ar gael.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae arweinydd y cynhyrchiad hefyd wedi canmol Shân am ei pharodrwydd i gamu i'r adwy ar fyr rybudd. Dywedodd David Charles Abell fod gweithred Shân y tro hwn gyfystr â dringo Everest ym myd y theatr.
Fe ddaeth y newydd hefyd yn dipyn o syndod i wrandawyr Radio Cymru, wedi i'r gyflwynwraig Heledd Cynnwal orfod camu'n sydyn i esgidiau Shân ar ei rhaglen foreol.
Y gobaith yw y bydd Angelika Kirchschlager yn gwella ymhen ychydig ddyddiau ac y bydd yn gallu dychwelyd i'r llwyfan.