Cwmni Hitachi 'heb gefnu' ar gynllun Wylfa Newydd

  • Cyhoeddwyd
Wylfa NewyddFfynhonnell y llun, Horizon Nuclear
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r gwaith o adeiladu Wylfa newydd yn dechrau yn 2020 os gaiff y cynllun ei gymeradwyo

Nid yw cwmni Hitachi wedi troi cefn ar gynllun Wylfa Newydd ar ynys Môn, yn ôl un o uwch weithredwyr y cwmni.

Daeth y sylwadau yn dilyn adroddiadau diweddar fod y cwmni yn ystyried cefnu ar y prosiect yn sgil pryderon am gynnydd pellach yng nghostau adeiladu'r orsaf.

Mewn cyfarfod ddydd llun, dywedodd dirprwy lywydd gweithredol Hitachi, Toshikazu Nishino, fod Prydain a Siapan yn "gwneud ymdrech".

Ychwanegodd: "Nid yw'r trafodaethau yn rai hawdd, ond nid ydym wedi ildio ac yn parhau i weithio ar y cynllun."

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd llefarydd o Hitachi-Horizon eu bod wedi bod yn trafod cynlluniau i ariannu Wylfa Newydd gyda Llywodraeth y DU ers mis Mehefin i geisio canfod modd sy'n "gweithio i fuddsoddwyr a chwsmeriaid yn y DU".

Mewn datganiad pellach ddydd Llun dywedodd llefarydd ar ran cwmnni Hitachi: "Bydd y cwmni'n gwneud ei benderfyniad buddsoddi terfynol ar Brosiect Horizon ar ôl asesiad o'r cynllun yn nhermau rhesymoledd economaidd fel cwmni preifat."

Byddai tua 9,000 o weithwyr yn cael eu cyflogi i adeiladu'r ddau adweithydd ar Ynys Môn pe bai'r cynlluniau'n cael eu cymeradwyo.

Y gobaith yw y byddai'r orsaf yn cynhyrchu 2,900 megawat o bŵer erbyn canol y 2020au, ac y byddai'n weithredol am 60 mlynedd.