Atal gwaith ar safle Wylfa Newydd
- Cyhoeddwyd
Mae ymgais i ddechrau gwaith clirio ar safle atomfa newydd Wylfa Newydd ar ynys Môn wedi cael ei atal gan Lywodraeth Cymru.
Penderfynwyd atal y gwaith oherwydd pryderon gan nifer o grwpiau ynglŷn ag effaith y gwaith ar fywyd gwyllt yr ardal.
Mae ymyrraeth y llywodraeth y golygu y gallai'r datblygiad gael ei atal am rai misoedd wrth i weinidogion ystyried y ffordd ymlaen.
Ym mis Medi cafodd cwmni Horizon ganiatad i ddechrau'r gwaith o glirio'r safle 740 erw oedd yn cynnwys clirio'r tir a symud "rhywogaethau o fywyd gwyllt".
Mae nifer o grwpiau gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, RSPB Cymru a Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru wedi dweud bod ganddyn nhw bryderon "arwyddocaol " ynglŷn ag effaith y gwaith ar nifer o rywogaethau prin gan gynnwys dyfrgwn a llygod y dŵr.
Mae cwmni Horizon wedi addo creu ardaloedd ecolegol penodol ar gyfer y bywyd gwyllt mewn ymateb i'r pryderon.
Siom Horizon
Dywedodd Horizon eu bod yn siomedig bod y cynllun clirio a gafodd ei basio yn unfrydol gan y Cyngor Sir wedi ei "alw i mewn" gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd llefarydd: "Rydym yn anghytuno â'r rhesymeg y tu ôl i'r galw i mewn, ac yn ystyried opsiynau ynglŷn â sut i ymateb i'r penderfyniad."
Yn ôl Llywodraeth Cymru nid yw'r penderfyniad i adolygu'r cynlluniau yn awgrym o unrhyw farn gan weinidogion Cymru ynglŷn â'r cynllun.
Mewn ymateb dywedodd arweinydd portffolio datblygu economaidd Ynys Môn, Carwyn Jones ar raglen Post Prynhawn ei fod yn "hynod o siomedig" a bod penderfyniad Llywodraeth Cymru yn syndod mawr iddo a'r cyngor.
"Rwy'n galw ar y llywdraeth Lafur i ddechrau a gorffen y broses yn handi " meddai.
Yn gynharach dywedodd: "Y gobaith yw nad yw'r galw i mewn yn cael effaith andwyol ar ddatblygiad Wylfa Newydd gan ei fod yn ddatblygiad allweddol i ddatblygu economi'r ynys a gogledd Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd5 Medi 2018
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2018