Bywyd glân i seren Dirty Sanchez

  • Cyhoeddwyd

Deg mlynedd wedi i fywyd fel seren y rhaglen deledu Dirty Sanchez bron â lladd Matt Pritchard, mae'r sglefrfyrddiwr o Gaerdydd wedi trawsnewid ei fywyd, gan roi'r gorau i gyffuriau a throi'n fegan ac yn athletwr eithafol.

Mae rhaglen arbennig ar BBC One Wales, Wild Man to Iron Man, yn dangos effaith ysgytwol byw bywyd i'r eithaf ar y seren teledu byd-eang a'i drawsnewidiad diweddar.

Nawr yn 45 oed, mae Matt wedi cwblhau ras triathlon arbennig, gan fod y cyntaf i nofio, seiclo a rhedeg o amgylch Cymru mewn 14 diwrnod.

Disgrifiad o’r llun,

Matt Pritchard

Trobwynt

Dywedodd Matt am y trobwynt wnaeth iddo sylweddoli fod rhaid iddo newid ei fywyd: "Gwelais fy hun ar y teledu - 'o'n i'n bloated, yn felyn ac yn edrych fel mess a penderfynais gwneud rhywbeth amdano.

"Ro'n i'n byw bywyd i'r eithaf ac yn partïo gormod ac 'o'n i'n meddwl allwn i barhau i fyw fel 'na os fyddwn i'n fwy ffit. Ond sylweddolais 'mod i'n lladd fy hun a ddechreuais ffocysu ar iechyd, hapusrwydd a deiet da."

Roedd y ras triathlon o amgylch Cymru yn gyfle i'r sglefrfyrddiwr beiddgar ddathlu 12 mis heb gyffuriau, ac mae hefyd 10 mlynedd ers ddiwedd cyfres Dirty Sanchez, a oedd yn cael ei wylio gan dros 400 miliwn o bobl mewn 65 wlad.

Disgrifiad o’r llun,

Matt yn ystod ei ras o amgylch Cymru

Gyda llwyddiant y gyfres roedd yn byw bywyd i'r eithaf, gan gymryd cyffuriau a dioddef problemau iechyd meddwl. Daeth y pwysau yn agos i'w ladd.

Mae Matt yn sôn am lwyddiant y gyfres: "Digwyddodd e dros nos. Pob tro 'o'n i mas 'da fy ffrindiau 'oedden ni'n cael sylw. Aeth bywyd i 100 milltir yr awr yn gyflym iawn ac 'oedd hi fel 'na am sawl blwyddyn. Hwyl ond yn mental.

Effaith ar gorff a meddwl

"Gwnaeth fy iechyd meddwl ddirywio - ar ôl sbel, mae'r ffordd 'na o fyw yn dal i fyny gyda chi. Wnes i gloi fy hun yn y tŷ am dros wythnos a mynd i le tywyll iawn. Collais fy mhen a bu rhaid i fy rieni helpu fi - cafodd effaith mawr arnaf. 'Does dim lot o bobl yn gwybod.

"Penderfynais weld cwnselydd. 'Ro'n i ar feddyginiaeth hefyd ond 'dw i ddim bellach ac yn teimlo lot gwell.

"'Dyw problemau iechyd meddwl ddim yn mynd i ddiflannu ond 'dw i'n gwybod sut i ddelio gyda nhw nawr. 'Dw i'n mynd i'r gampfa chwe gwaith yr wythnos ac mae hynny'n gweithio i fi."

Disgrifiad o’r llun,

Matt yn seiclo o amgylch Cymru fel rhan o'r ras 'triathlon'

Mae Matt yn cyfaddef ei fod yn gymeriad eithafol: "Unrhyw beth 'dw i'n gwneud, 'dw i'n gwthio fy hun mor bell â 'dw i'n gallu ac mae r'un peth gyda ffitrwydd. Dechreuais gyda hanner marathon Caerdydd, yna ultra marathon, yna triple Ironman. 'Dw i'n mwynhau gwthio fy meddwl a 'nghorff i'r eithaf a gweld pa mor bell 'dw i'n gallu mynd.

"'Oedd fy ffitrwydd yn gwella a dechreuais i ddarllen am pam fod lot o athletwyr endurance yn fegan a phenderfynais droi'n fegan."

Rhoi'r gorau i gyffuriau

Meddai Matt: "'Doedd e ddim yn anodd o gwbl - unwaith ti'n gweld dy hun mewn cymaint o mess a ti'n gwneud yr un pethau bob penwythnos - mynd i'r un partïon a siarad yr un sbwriel - doedd e ddim yn galed.

"'Ro'n i'n gaeth i gyffuriau am adeg ond 'dw i'n dda am fynd cold turkey. 'O'n i arfer ysmygu hefyd ond stopiais a 'dw i heb gael sigarét ers saith mlynedd.

"Mae gen i bersonoliaeth addictive."

Roedd y seren Dirty Sanchez yn enwog am ei driciau mentrus ar y gyfres ond be' sy'n gwneud iddo wthio ei hun i'r eithaf?

Yn ôl Matt: "Y frwydr i gario 'mlaen ac i beidio ildio. Pan 'dw i'n cyrraedd y pwynt pan mae fy meddwl yn dechrau chwarae triciau arna'i ac mae'n anodd iawn, dyna'r pwynt pan 'dw i'n cychwyn mwynhau achos dyna lle mae'r frwydr."

Bwlio yn yr ysgol

Mae Matt yn credu fod ei ddyddiau ysgol anodd wedi cael effaith mawr arno: "'Oedd cael pobl yn dweud 'mod i'n ddiwerth ac yn fy mwlio - unwaith ti'n clywed hynny yn blentyn ifanc, dyna sy' wedi gwneud fi'n y person ydw i heddiw a dyna pam mae gen i ysfa i lwyddo mewn bywyd. Dyna pam 'dw i'n gwthio fy hun mor galed.

Disgrifiad o’r llun,

Matt a'i gi Lemmy

"'Dw i'n berson swil. Pan ddigwyddodd Dirty Sanchez wnes i greu'r cymeriad 'ma - Pritchard. 'Roedd e'n ddyn crazy ond nid fi oedd e. 'Ro'n i'n Pritchard am amser hir ond mae e wedi mynd nawr a 'dw i 'nól i fod yn Mathew 'to. 'Dw i'n ffeindio mas 'to pwy yw Mathew a 'dw i dal yn y person swil yna.

"'Roedd e i gyd yn act er mwyn cuddio'r swildod. 'Dw i'n mwynhau bod yn Mathew 'to ar y funud."

Mae stori Matt yn ysbrydoliaeth i unrhyw un sy' eisiau newid bywyd a'i neges i eraill yw: "'Dydych chi ddim yn ddiwerth. Os chi wir eisiau gwneud rhywbeth, allwch chi. Ewch i ffeindio rhywbeth sy'n gwneud chi'n hapus.

"'Dw i'n gwybod ei fod yn anodd i ddianc os chi mewn lle tywyll iawn - ond cofiwch fod golau ar ddiwedd y daith a fyddwch chi ddim yn teimlo mor isel am byth."

Bydd y rhaglen Wild Man to Iron Man ar BBC One Wales am 10:40 ar nos Fercher, 19 Rhagfyr ac ar gael ar BBC iPlayer ar ôl y darllediad.

Mae rhaglen arall Matt, Dirty Vegan, sy'n sôn am ei feganiaeth ar BBC One Wales am 7:30 ar 2 Ionawr.

Hefyd o ddiddordeb