Ateb y Galw: Y berfformwraig Elain Llwyd

  • Cyhoeddwyd
Elain LlwydFfynhonnell y llun, Elain Llwyd

Y berfformwraig Elain Llwyd sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Bethan Ellis Owen yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi wir yn meddwl mai'r atgof cyntaf fwyaf clir sydd gen i ydi y diwrnod wnaeth Ffion fy chwaer fach gyrraedd. Mi o'n i bron yn bedair oed, a dwi'n cofio chwarae fyny'r grisiau yn nhŷ Nain a Taid ym Mhenygroes yn disgwyl i gael mynd i'r ysbyty i gyfarfod fy chwaer fach newydd. Dwi'n cofio rhedeg i lawr y coridor yn yr Ysbyty at Dad cyn cael mynd i mewn i weld Mam a Ffiff.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Leonardo DiCaprio. Hollol obsessed efo fo... dwi dal yn obsessed efo fo a d'eud y gwir!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae 'na lot i ddewis ohonyn nhw! Un sy'n sefyll allan ydi pan wnaeth siwt y cymeriad dwi'n chwarae sy'n gwisgo lot o binc ac aur rwygo yn y pen ôl yn ystod sioe Cyw mewn rhyw Eisteddfod!

Disgrifiad o’r llun,

O na! Druan o Dona (ac Elain!)

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Yn dal i fyny ar benodau Gwesty Aduniad ar S4C! Dwi wedi beichio crio ar bob pennod.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n tueddu i feddwl fod gen i fwy o amser na s'gen i mewn gwirionedd, felly dwi braidd yn uchelgeisiol wrth feddwl mod i'n medru cael nap, bwyd, cawod a newid yn barod i fynd i rhywle o fewn awr.

Weithiau - dwi'n llwyddo i neud bob dim, ond yn aml... mae o'n amhosib. Ma' hyn wedi dod yn gymaint o beth nes ei fod yn cael ei adnabod fel Elain Time gan fy nheulu a Rhodri fy nghariad.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Pen Llŷn. I fod yn fanwl, Porth Ferin yn Rhosirwaun, cartref teulu Nain sy'n edrych allan am y môr ac yn teimlo fel pen draw'r byd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Roedd canu lleisiau cefndir i Edward H a'r Band yn eu gig olaf 'offishal' yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2013 yn noson anhygoel. Uchafbwynt ac anrhydedd.

Disgrifiad o’r llun,

Cleif Harpwood a Dewi Pws yn barod i fynd i berfformio ar lwyfan y maes Eisteddfod 2013 gyda gweddill Edward H Dafis

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Chwareus. Gweithgar. Meddylgar.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

How To Be a Woman gan Caitlin Moran. Llyfr ffeminist pwysig ein cyfnod ni.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Glen - brawd fy nhad. Dwi'n gwybod y bysa ni'n ffrindia mawr tasa fo dal yma efo ni.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mi wnes i ddysgu i chwarae'r feiolin a'r clarinet yn yr ysgol - ond o'n i'n WARTHUS yn eu chwarae nhw!

O archif Ateb y Galw:

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Ei dreulio efo'r bobl dwi'n garu yn mwydro ac yn yfed jin!

Beth yw dy hoff gân a pham?

Yma Wyf Inna' I Fod gan Geraint Løvgreen. Mae hi'n gân sy'n adlewyrchu pa mor wirioneddol arbennig ydi Caernarfon i fi.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma Geraint Løvgreen, a gyfansoddodd yr alaw, a Meirion MacIntyre Huws a ysgrifennodd y geiriau i Yma Wyf Inna' I Fod, yn edrych ar Gaernarfon, y man a ysbrydolodd hoff gân Elain

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Dwi'n licio bwyd... lot, felly mae hwn yn gwestiwn anodd! Os oes rhaid dewis, rhywbeth fel caws gafr a betys i ddechrau neu scallops, rhyw bysgodyn neis fel hadoc fel prif gwrs a crème brûlée Nain Penygroes yn bwdin.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Carole King - meddyliwch sut fysa'n teimlo i allu ysgrifennu caneuon fel 'na!

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Mali Tudno Jones