Brechiad ffliw i blant i warchod yr henoed

  • Cyhoeddwyd
plant
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant dwy a thair oed yn gallu rhannu germau yn gyflym ac effeithiol iawn

Mae rhieni'n cael eu hannog i frechu eu plant rhag y ffliw er mwyn gwarchod pobl hŷn rhag "yr haint cas".

Y llynedd dim ond 43% o'r rhai oedd yn gymwys i dderbyn brechiad am ddim yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a fanteisiodd arno.

Gobaith y bwrdd yw y bydd ymgyrch newydd sy'n pwysleisio perygl yr haint o bobl hŷn yn golygu y bydd mwy o blant yn cael eu brechu.

Dywedodd Ros Jervis, cyfarwyddwr iechyd y Bwrdd: "Mae plant yn dda iawn am rannu germau. Mae hwn yn haint sy'n gallu bod yn un cas iawn.

"Os yw'r achosion mewn pobl dros 75 oed - y rhai bregus iawn a fyddai'n diodde' go iawn o'r ffliw - yna mae'n werth ei wneud."

Mae'r ymgyrch yn pwysleisio bod y brechiad yn cael ei roi drwy'r trwyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymgyrch yn pwysleisio mai drwy'r trwyn, yn hytrach na phigiad, y mae'r brechiad yn cael ei roi

Ychwanegodd bod ymchwil yn dangos fod un achos o'r ffliw yn cael ei atal am bob chwe phlentyn sy'n cael eu brechu.

Dywedodd hefyd fod y bwrdd iechyd, sy'n gyfrifol am ardaloedd Penfro, Ceredigion a Sir Gâr, eisoes yn gweld y budd o'r ymgyrch gyda chynnydd o 3% yn nifer y plant dwy a thair oed sy'n cael eu brechu.