Ambiwlans Cymru: Rhybudd i gleifion yn ystod cyfnod prysur
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyfaddef y gallai cleifion ag afiechydon sydd ddim yn peryglu bywyd aros yn hirach am ymateb gan ambiwlansys yn ystod dyddiau prysura'r gaeaf.
Mae nifer y galwadau 999 yn cynyddu'n sylweddol yn ystod y cyfnod rhwng y Nadolig a'r flwyddyn newydd.
Er bod prif weithredwr y gwasanaeth, Jason Killens, yn gresynu'r ffaith y bydd rhai yn gorfod aros yn hir, mae'n mynnu fod yn rhaid blaenoriaethu'r achosion mwyaf difrifol.
Y gaeaf hwn, mae cynyddu'r nifer o uwch-barafeddygon, nyrsys a meddygon all asesu galwadau ymhlith ymdrechion y gwasanaeth i ddelio â'r pwysau.
Mae Mr Killens yn mynnu fod y gwasanaeth wedi dysgu o brofiadau'r llynedd er mwyn sicrhau fod digon o staff ar ddiwrnodau pan fo'r galw ar ei uchaf.
Y llynedd, ar ddydd Gŵyl San Steffan yn unig, fe gafodd y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru 1,600 o alwadau - 25% yn uwch na'r arfer.
"Fe fyddwn ni'n brysur rhwng y Nadolig a'r flwyddyn newydd - ac fe fyddwn ni'n gweld dyddiau lle mae'r galw 10-20% yn uwch na'r hyn ry'n ni'n ei weld fel arfer," meddai Mr Killens.
"Ar y dyddiau hynny, mae'n ddrwg gen i ddweud, fe fydd rhai cleifion yn gorfod aros yn hirach i'n gweld ni er mwyn i ni flaenoriaethu'r rhai sydd angen ein cymorth ni gyntaf."
Yn ôl arbenigwyr fe wynebodd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol y "storm berffaith" o ran pwysau yn ystod y gaeaf diwetha' o ganlyniad i'r tywydd garw ynghyd â'r tymor ffliw gwaethaf ers bron i ddegawd.
Mae cynyddu nifer yr uwch-barafeddygon sy'n gallu ymateb i alwadau 999 yn un o'r ffyrdd y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn ceisio ymdopi â phwysau'r gaeaf hwn.
Mae'r parafeddygon wedi cael hyfforddiant arbenigol i archwilio cleifion ac asesu eu hanghenion i lefel uwch.
Fe allan nhw hefyd gynnig meddyginiaeth ychwanegol.
Mae'r sgiliau ychwanegol yn caniatáu iddyn nhw ddelio â 70% o achosion maen nhw'n eu gweld yn eu cartrefi o gymharu â 30% petai criw ambiwlans arferol wedi ymateb.
'Safio oriau lawr y lein'
Mae Berwyn Owen Jones yn uwch-barafeddyg sy'n gweithio ar hyd a lled gogledd Cymru.
"Mae'r cyfnod hwn yn gallu bod yn arbennig o brysur i'r criwiau," meddai.
"'Da ni'n gweithio flat-out heb stop - 'da ni'n gweld spike o alwadau adeg yma'r flwyddyn - er enghraifft cleifion ac afiechydon y frest a damweiniau ac yn y blaen.
"Rydych chi'n gweld lluniau ar y newyddion o ambiwlansys sy'n ciwio tu allan i adrannau brys - mae hynny'n adlewyrchiad o'r pwysau arnon ni ac ar wasanaethau'r ysbyty.
"Fel parafeddyg uwchradd gyda meddyginiaethau a sgiliau ychwanegol, fe allwn ni drin mwy o gleifion yn y gymuned - nid mynd â nhw i uned frys straightaway.
"Mae trin rhywun yn y gymuned yn cymryd mwy o amser. Ond os 'da ni'n sbïo ar y sefyllfa, gall treulio awr a hanner yn y tŷ arbed pedair neu bum awr yn aros mewn uned frys.
"'Da ni'n safio oriau lawr y lein."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2018