Dim ond 11% o honiadau treisio sy'n arwain at gyhuddiad
- Cyhoeddwyd
Dim ond 11% o'r achosion o dreisio honedig yng Nghymru arweiniodd at gyhuddiad dros y chwe blynedd ddiwethaf, yn ôl ffigyrau newydd.
Tra bod nifer yr honiadau o dreisio wedi cynyddu rhwng 2012 a 2017 - fe ddisgynnodd nifer y cyhuddiadau.
Dywedodd un ddynes fod y ffaith bod ei hachos hi wedi ei ollwng gan yr heddlu wedi arwain at eraill yn cael eu camdrin.
Mynnodd yr heddlu eu bod nhw'n cynnal ymchwiliad trwyadl i bob adroddiad o'r fath.
Mae'r rhesymau am ollwng achosion yn cynnwys problemau gyda thystiolaeth, cyhuddiadau sydd "ddim o fudd i'r cyhoedd", anhawster wrth adnabod y troseddwr a salwch y cyhuddedig.
Dros yr un cyfnod, fe arweiniodd 15% o honiadau o ymosodiadau rhyw at gyhuddiad - 1,050 o dros 7,000 o achosion.
Stori Sarah
Fe wnaeth Sarah (enw ffug) o dde Cymru ddioddef ymosodiad rhyw gan ei llys-dad pan yn 12 oed.
Roedd ei brawd yn rhy ifanc i'w helpu ac nid oedd y fam yn ei choelio tan iddi geisio trywanu'r dyn tair blynedd yn ddiweddarach gan ddod â'r heddlu i mewn.
"Daeth y cyfan allan bryd hynny... dwi'n cofio mynd yn wyllt... roedd mam yn fy nghoelio i wedyn," meddai.
Er bod Sarah yn teimlo fel bod swyddogion yn ei choelio, cafodd yr achos ei ollwng gan Wasanaeth Erlyn y Goron oherwydd diffyg tystiolaeth.
"Cefais i'r holl gefnogaeth a chwnsela bosib ond nid oedd modd sicrhau cyhuddiad."
Yn ôl Sarah, sydd bellach yn ei 30au, fe aeth ei llys-dad ymlaen i gam-drin plant eraill ar ôl i'r achos gael ei ollwng: "Dwi'n siŵr byddai stopio ef bryd hynny (adeg yr honiadau gwreiddiol), wedi cael effaith ar hynny."
"Nid yw'r profiad wedi'n niffinio fel person oherwydd dwi'n well na hynny, ond yn sicr mae wedi effeithio ar fy mywyd."
Dangosodd cais rhyddid gwybodaeth gan y BBC fod 1,205 honiad o dreisio wedi eu gwneud i Heddlu Gwent ers 2013, gan arwain at 85 cyhuddiad.
3,505 honiad cafodd eu gwneud i Heddlu'r Gogledd rhwng 2012 ac Awst 2018, gyda dim ond 446 o'r rheini yn arwain at gyhuddiad.
Dim ond mewn 180 o'r 1,588 cwyn a dderbyniodd Heddlu Dyfed-Powys rhwng 2012-2018 cafodd yr unigolion ei gyhuddo.
Roedd tuedd ar hyd lluoedd Dyfed-Powys, Gogledd Cymru a Gwent bod nifer yr honiadau o dreisio yn cynyddu, tra bod nifer y cyhuddiadau wedi disgyn.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw'n bwriadu darparu ffigyrau ond oherwydd pwysau gwaith a niferoedd staffio nid yw hynny wedi bod yn bosib hyd yma.
Profiad 'dychrynllyd'
Mae'r elusen, Cymorth i Ferched Cymru, yn mynnu fod cefnogaeth ar gael ac yn dweud fod mwy o ddioddefwyr yn teimlo'n ddigon hyderus i adrodd troseddau rhyw neu dreisio.
"Mae dioddefwyr wedi trafod y profiad dychrynllyd o wneud cwyn swyddogol i'r heddlu, a'r ymchwiliad a'r broses llys sy'n dilyn" meddai llefarydd.
"Mae rhagdybio, beirniadu a gweld bai ar ddioddefwyr dal yn gyffredin ymysg y cyhoedd wrth drafod caniatâd, beth yn union yw treisio a sut y dylai unigolion ymateb - ac mae hi'n anochel y byddai'r fath feddylfryd yn bodoli ymysg rhai yn y system gyfiawnder neu sy'n rhan o'r rheithgor hefyd."
Ychwanegodd: "Mae hi'n hanfodol bod gan ddioddefwyr ddigon o hyder yn y system gyfiawnder i allu dod yn eu blaenau... heb bryder o gael eu labelu, eu beio neu eu barnu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2018