'Nadolig yn anodd i deuluoedd sydd ag aelodau ar goll'

  • Cyhoeddwyd
Billy DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Billy Davies yn 16 oed pan ddiflannodd

Mae Nadolig yn gallu bod yn anodd i deuluoedd sydd ddim yn gwybod lle mae eu hanwyliaid.

Un o'r teuluoedd hynny yw teulu Billy Davies o Aberpennar.

Fe ddiflannodd y bachgen 16 oed ar 18 Chwefror 1997 a hyd heddiw dyw'r teulu ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd iddo.

Y gred oedd ei fod wedi mynd i afon Cynon, er ei fod yn ofni dŵr ac wedi dweud wrth ei chwaer ei fod am ymuno â'r fyddin, ond pan aeth Michelle i chwilio doedd dim sôn amdano yn yr afon.

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau nad ydyn nhw wedi cau ei achos ond nad oes trywydd newydd wedi bod i'w hymchwiliad.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Billy wrth ei chwaer ei fod am ymuno â'r fyddin

Yn ôl nith Mr Davies, Anna, mae'r Nadolig yn amser anodd i'r teulu ond "ry'ch yn gwneud y gorau o bethau er mwyn y plant.

"Dyma'r amser gorau o'r flwyddyn i fod ond dyw e ddim - mae un sedd ar goll."

Disgrifiad o’r llun,

Michelle Davies ac Anna Davies yn wynebu Nadolig heb Billy

Mae Michelle yn credu bellach bod ei brawd wedi marw ac mae hi wedi rhoi ei enw ar garreg fedd eu mam.

Dywedodd: "Ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 18 oed a finnau ym Mhorthcawl mi 'nes i benderfynu ei fod wedi marw.

"Mi fyddai fe wedi dod adre erbyn nawr."

Un arall sydd wedi wynebu profiad tebyg yw Bronwen Vearncombe. Fe ddiflannodd ei brawd Gomer Wyn-Roberts ar ddiwrnod ei phriodas.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Gomer ddim i briodas ei chwaer Bronwen yn 1990

Roedd e i fod yn un o'r tywyswyr yn y briodas ond ddaeth e ddim i'r digwyddiad.

Flynyddoedd wedyn, wrth chwilio amdano ar Google, daeth Bronwen i wybod ei fod wedi marw yn 53 oed yn Llundain.

"Roedd e'n brofiad rhyfedd iawn," meddai, "ac roeddwn wastad wedi meddwl y buaswn yn ei weld cyn i angau ein gwahanu."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Diflannodd Gomer (yn y canol) ar ddiwrnod priodas ei chwaer Bronwen

Ychwanegodd Bronwen: "Roedd ei ddiflaniad wastad yn waeth ar ddiwrnod Nadolig - ar ôl rhai blynyddoedd doedd Mam ddim am siarad am y peth - dim ond Dad a fi fyddai'n gwneud.

"Hyd heddiw dwi ddim yn gwybod pam ond mi fyddai'n braf petai wedi cysylltu â'm rhieni i roi tawelwch meddwl iddyn nhw.

"Efallai ei fod mewn helynt neu yn wynebu dyled - does neb yn gwybod.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Does neb yn gwybod pam bod Gomer wedi diflannu

"Am wn i yr hwyaf yr oedd e'n gymryd cyn cysylltu y mwyaf anodd oedd hi.

"Ond petai e wedi cysylltu, rwy'n gwybod y buaswn i'n awgrymu dechrau gyda llechen lân - byddwn wedi dweud wrtho nad oeddwn angen gwybod pam ei fod wedi diflannu, buaswn wedi hoffi cael perthynas fel brawd a chwaer.

"Buaswn wedi dweud wrtho hefyd fod ganddo nai a nith sy'n dymuno cael cwmni eu hewythr."