Teyrnged i fam o Lanberis fu farw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Rebecca LouiseFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Rebecca Louise Edwards yn y fan a'r lle

Mae teulu dynes fu farw mewn gwrthdrawiad ger Pwllheli wedi talu teyrnged iddi.

Roedd Rebecca Louise Edwards yn 34 oed ac o Lanberis.

Dywedodd ei theulu ei bod hi'n "ddynes arbennig iawn".

"Roedd yn nyrs ymroddedig yn Ysbyty Gwynedd ac roedd wedi mentro yn ddiweddar i agor ei busnes ei hun," meddai.

"Roedd hi'n ferch, wyres, chwaer, mam a ffrind a gaiff ei cholli gan bawb a oedd yn ei hadnabod."

Dyn wedi ei gyhuddo

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A499 rhwng Pwllheli a Llanbedrog tua 19:00 nos Wener.

Fe wnaeth dyn 20 oed o Gricieth ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Mae Osian Hicks-Thomas hefyd wedi ei gyhuddo o yrru o dan ddylanwad alcohol, peidio â stopio wedi gwrthdrawiad a pheidio rhoi gwybodaeth am y gwrthdrawiad.