Y Gynghrair Genedlaethol: Salford City 2-0 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Matt GreenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Matt Green roddodd Salford ar y blaen wedi 23 munud

Nid oedd Wrecsam yn gallu ail-greu perfformiad arbennig diwrnod San Steffan wrth i Salford ddial ar y Dreigiau gyda buddugoliaeth o 2-0.

Ar ôl creu sawl cyfle fe aeth Salford ar y blaen wrth i Matt Green fanteisio ar amddiffyn llac o gic rydd wedi 23 munud.

Wrecsam oedd yn rheoli'r chwarae yn ystod yr ail hanner ond doedden nhw'n methu'n glir a sgorio'r gôl hollbwysig.

Gyda 60 munud ar y cloc fe ychwanegodd Rory Gaffney at fantais Salford ac roedd hynny'n ddigon i selio'r fuddugoliaeth.

Mae Wrecsam yn parhau yn ail yn y tabl tra bod Salford yn codi i'r trydydd safle.