Heddlu wedi ymateb i rêf anghyfreithlon yn Nhregaron

  • Cyhoeddwyd
Cwm BerwynFfynhonnell y llun, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cwm Berwyn tua wyth milltir o Dregaron

Mae gwaith glanhau "sylweddol" angen ei wneud yn dilyn rêf anghyfreithlon yng Ngheredigion, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Cafodd swyddogion Heddlu Dyfed-powys eu galw i'r safle yng Nghwm Berwyn, ger Tregaron, am tua 23:00 ddydd Llun ar ôl adroddiadau bod torf fawr wedi casglu yno.

Daeth swyddogion a'r digwyddiad i ben cyn treulio gweddill y noson ar y safle.

Dywedodd CNC bod coelcerthi yn llosgi a bod gwaith glanhau "sylweddol" angen ei wneud yn dilyn y digwyddiad.

Ychwanegodd yr heddlu y byddai swyddogion yn parhau yn yr ardal ar ddydd Mawrth er mwyn tawelu meddyliau'r trigolion lleol.

Mae CNC yn argymell i bobl gadw'n glir o'r ardal tra bod y gwaith glanhau yn parhau.