Galw am sgrinio plant am anawsterau dysgu gan gynnwys ADHD

  • Cyhoeddwyd
Mae symptomau ADHD yn cynnwys bod yn orfywiog ac yn fyrbwyllFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae symptomau ADHD yn cynnwys bod yn orfywiog ac yn fyrbwyll

Fe ddylai plant sy'n cael eu gwahardd yn gyson o ysgolion gael eu sgrinio am anawsterau dysgu gan gynnwys ADHD yn ôl un arbenigwr yn y maes.

Daw galwad yr Athro Amanda Kirby o Brifysgol De Cymru ar ôl i elusen ryddhau ffigyrau yn awgrymu bod 30% o garcharorion a chyflwr ADHD, sy'n cymharu â ffigwr o 5% yn y boblogaeth gyffredinol.

Mae ADHD yn anhwylder ymddygiad sy'n cael ei nodweddu gan ddiffyg talu sylw.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oes yna unrhyw gynlluniau ar y gweill i sgrinio plant mewn amgylchiadau o'r fath.

'Cosb ar ôl cosb'

Dadl yr Athro Kirby, arbenigwr ym maes anhwylderau ymddygiad mewn addysg, yw bod angen sgrinio sydd wedi ei dargedu ar sail ymddygiad disgybl yn yr ysgol.

"Rwy'n credu y dylai pob un person ifanc sy wedi ei wahardd mwy nag unwaith gael ei sgrinio yn awtomatig ar gyfer anawsterau dysgu," meddai.

Mae Dylan sy'n 15 oed a gyda chyflwr ADHD wedi dweud fod ei brofiad o'r ysgol yn un o "gosb ar ôl cosb a'r ôl cosb."

Fe gafodd Dylan ddeiognosis o ADHD pan oedd yn chwe blwydd oed. Dywedodd ei fam Zoe Piper na fydd hi'n synnu os byddai ei mab yn diweddu mewn carchar.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Amanda Kirby o Brifysgol De Cymru yn arbenigwr mewn anghenion datblygu mewn addysg

Dywedodd Ms Piper wrth raglen BBC Wales Today: "Yn gyffredinol mae'r ysgol wedi bod yn hunllef iddo.

"Mae pobl yn credu fy mod yn dweud jc pan dwi'n dweud na fyddai'n synnu os byddai'n diweddu mewn carchar."

Ychwanegodd bod ei mhab wedi cael ei fwlio'n gorfforol yn yr ysgol a nad yw ysgolion gyda'r adnoddau i gefnogi plant gyda gofynion addysg ychwanegol.

Beth yw ADHD?:

  • Mae symptomau yn cynnwys ymddygiad esgeulus a gorfywiog, teimlo'n bryderus a phroblemau cysgu,

  • Fe gafodd ADHD ei gydnabod fel cyflwr dilys yn y DU yn 2000, cyn cael ei gydnabod yn ddilys fel cyflwr o fewn oedolion yn 2008,

  • Yn 1990, dim ond 40 o blant yn y DU oedd yn derbyn triniaeth feddygol am y cyflwr, sy'n golygu bod nifer o oedolion heb dderbyn diagnosis neu heb gael eu rheoli'n gywir.

  • Mae oddeutu 30% o oedolion sy'n garcharorion gyda ADHD

  • Mae ADHD yn effeithio 5% o blant a 3% o oedolion (1.5m) yn y DU, sydd yn ei wneud y cyflwr ymddygiadol mwyaf yn y DU

Ffynhonell: ADHD Action

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dylan ddiagnosis o ADHD pan oedd yn chwe mlwydd oed

Dywedodd Dylan fod ADHD yn ei rwystro rhag ymddwyn yn "gymedrol", a bod ei ymddygiad yn yr ysgol yn effeithio ar ei fywyd y tu fewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth.

"Mae pobl wedi dweud wrthai fy mod yn aflonyddus, nad ydwi'n stopio gwingo, ond dyna sut dwi'n rheoli fy hun," meddai.

Ychwanegodd ei fod wedi methu nifer o wersi o ganlyniad i'r ysgol yn ei gosbi am ei ymddygiad.

'Talu'r pris'

Mae ffigyrau gan ADHD action yn dangos fod canran o bobl gyda ADHD yng ngharchardai Prydain yn 10 gwaith yn fwy na'r boblogaeth gyffredin.

Mae'r Athro Kirby, sy'n arbenigwraig mewn anghenion datblygu mewn addysg ym Mhrifysgol De Cymru wedi galw am sgrinio sydd wedi'i dargedu i gyd fynd ag ymddygiad y plentyn yn yr ysgol.

"Dwi'n credu y dylai pob person ifanc sydd wedi cael ei gwahardd fwy nag unwaith gael ei sgrinio yn awtomatig ar gyfer anghenion dysgu," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ysgrifennydd Addysg Cymru, Kirsty Williams nad oedd unrhyw gynlluniau gan Lywodraeth CYmru i sgrinio plant am gyflwr ADHD

Mae ysgrifennydd addysg Cymru, Kirsty Williams wedi dweud fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth ym mis Tachwedd gyda buddsoddiad o £21m i geisio ei weithredu.

Os yr ydych yn eistedd yno yn meddwl 'dydy fy mhlentyn i ddim gyda'r anghenion yma, pam ddylwn i bryderu? i fod yn onest mae cymdeithas yn talu'r pris yn y diwedd," meddai

Pan ofynnwyd i Ms Williams os byddai'n cefnogi syniad yr Athro Kirby, dywedodd nad oedd "unrhyw gynlluniau" i "brofi plant yn arferol."

Fe awgrymodd fod ffordd well i gefnogi plant gydag anghenion dysgu a hynny yw drwy ddarparu gwell hyfforddiant ar gyfer athrawon i geisio lleihau nifer y gwaharddiadau.