Cynnig newydd i ddirwyn Clwb Rygbi Castell-nedd i ben

  • Cyhoeddwyd
Y Gnoll
Disgrifiad o’r llun,

Y Gnoll yw cartref y clwb ers ei sefydlu yn 1871

Mae Clwb Rygbi Castell-nedd yn wynebu ail ddeiseb i'w ddirwyn i ben, fis wedi i'r ddeiseb gyntaf gael ei gwrthod mewn llys.

Daw'r cam wedi i gwmni adeiladu perchennog y clwb, Mike Cuddy, fynd i'r wal ym mis Gorffennaf y llynedd.

Mae eisoes wedi dod i'r amlwg yn ystod gwrandawiad blaenorol yng Nghaerdydd bod y clwb mewn dyled o £10,000 i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).

Bydd y ddeiseb ddiweddaraf, sydd wedi ei chyflwyno gan HMRC, yn mynd o flaen yr Uchel Lys yn Llundain ar 30 Ionawr.

Ceisio gwerthu

Mewn gwrandawiad ym mis Rhagfyr, dywedodd y Barnwr Andrew Keyser nad oedd yn gallu caniatáu'r ddeiseb wreiddiol, er ei fod yn gweld bod y clwb yn fethdalwr.

Dywedodd bod sefyllfa "gwbl aneglur" wedi codi am fod dogfennau llys mewn cysylltiad â dyled o £31,000 wedi eu cyfeirio at gwmni gwahanol o eiddo Mr Cuddy.

Daeth i'r amlwg bryd hynny hefyd bod arian o bosib yn ddyledus i Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

Mae'r clwb ar hyn o bryd ar waelod tabl Uwch Gynghrair Principality, a bu'n rhaid gohirio dwy gêm gynghrair ym mis Rhagfyr.

Mae rhai o gefnogwyr y clwb wedi ceisio llunio cynllun i'w achub, gan ddweud bod consortiwm yn fodlon buddsoddi ynddo petai'n cael ei ddirwyn i ben.

Mae Mr Cuddy wedi dweud ei fod yn fodlon gwerthu'r clwb yn sgil methiant cwmni Cuddy Group, ar ôl datgan bwriad yn wreiddiol i geisio'i atgyfodi.

Fe newidiodd ei feddwl yn rhannol oherwydd salwch, ond hefyd er mwyn "ei basio ymlaen i bobl sy'n iachach ac yn gallu rhedeg y clwb fel mae'n haeddu cael ei redeg".