Dyfodol ansicr i ddigwyddiadau mawr Canolfan Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Canolfan CasnewyddFfynhonnell y llun, Google

Mae'n bosib na fydd Canolfan Casnewydd yn gallu cynnal digwyddiadau mawr yn ei ffurf bresennol yn dilyn arolwg diogelwch.

Dydy rheolwyr y safle, sydd wedi cynnal Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru a gigiau gan grwpiau fel y Manic Street Preachers, heb ail osod cadeiriau mewn rhan gafodd ei ddynodi'n beryglus.

Daw'r pryderon yn dilyn arolwg diogelwch yn Hydref 2018, sy'n golygu na chaiff y ganolfan gynnal digwyddiadau lle mae'r gynulleidfa i gyd yn eistedd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr ymddiriedolaeth sy'n gyfrifol am y ganolfan, Newport Live, bod "modd cynnal digwyddiadau mawr gyda chynllun eistedd wahanol".

'Cost effeithiol'

Fe wnaeth y ganolfan ystyried canslo digwyddiadau yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad, ac fe ddywedon nhw ar y pryd eu bod yn "siomedig" ond "bod diogelwch cwsmeriaid yn hynod bwysig".

Bydd y ganolfan yn parhau i lwyfannu gigiau gan fandiau The Wombats ym mis Ionawr a The Vamps ym mis Ebrill.

Mae Newport Live wedi cadarnhau nad oes penderfyniad wedi cael ei wneud eto ynglŷn â chael eisteddle wahanol yn lle'r un bresennol.

Ychwanegodd llefarydd ar ran yr ymddiriedolaeth: "Ar hyn o bryd mae'r sefyllfa yn cael ei adolygu, felly does dim penderfyniad wedi ei wneud naill ffordd."

Cadarnhaodd hefyd y gallai'r ganolfan logi eisteddle os byddai'n "gost effeithiol i wneud hynny".

Nid yw capasiti'r ganolfan o 2,000 wedi gostwng, ac mae modd iddyn nhw gynnig eistedd ar lefel y llawr yn ogystal â chapasiti sefyll.