Penodi llywodraethwr newydd i Garchar Berwyn, Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Nick LeaderFfynhonnell y llun, Sodexo
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Nick Leader yn dechrau ei swydd ym mis Ebrill

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi penodi llywodraethwr newydd i Garchar Berwyn yn Wrecsam.

Bydd Nick Leader yn dechrau'r swydd ym mis Ebrill, a hynny ar ôl gadael ei waith presennol fel cyfarwyddwr HMP Northumberland.

Yn y gorffennol mae wedi gweithio yng ngharchardai Reading, Long Lartin, Pentonville, Whitemoor a Peterborough.

Cafodd llywodraethwr cyntaf Berwyn, Russell Trent, ei atal o'i waith ym mis Awst 2018 yn dilyn honiadau yn ei erbyn.

Mae'r ymchwiliad i'r honiadau hynny'n parhau.

Y gred yw bod disgwyl i Mr Trent adael ei swydd cyn i'r honiadau yn ei erbyn gael eu gwneud, a bod y broses recriwtio wedi dechrau cyn yr ymchwiliad.

Dywedodd y Gwasanaeth Carchardai bod gan Mr Leader 25 mlynedd o brofiad o fewn y gwasanaeth, ac y byddai'r llywodraethwr dros dro, Danny Khan, yn parhau yn y swydd nes i Mr Leader ddechrau.