Cosbi Clwb Rygbi Castell-nedd am fethu â chwblhau gemau

  • Cyhoeddwyd
Neath RFC

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi penderfynu cosbi Clwb Rygbi Castell-nedd drwy dynnu chwe phwynt o'u cyfanswm yn y gynghrair.

Daw hynny ar ôl i'r Crysau Duon fethu â chwblhau gemau gynghrair yn erbyn Bedwas ac RGC a gem gwpan yn erbyn Pont-y-pŵl ym mis Rhagfyr.

Gan hefyd osod dirwy o £50 i'r clwb, dywedodd pwyllgor Undeb Rygbi Cymru eu bod yn ymwybodol o'u sefyllfa anodd ar hyn o bryd.

Roedd cosb wreiddiol Castell-nedd o golli dau bwynt ar ôl gem Bedwas wedi cael ei ohirio, ar yr amod nad oeddynt yn torri'r rheolau eto yn ystod y tymor hwn.

Ond ar ôl methu a chwblhau'r gêm yn erbyn RGC ar 15 Rhagfyr, cafodd y gosb ei weithredu, yn ogystal â thynnu pedwar pwynt ychwanegol.

Mae'r clwb yn wynebu ail ddeiseb i'w ddirwyn i ben ar hyn o bryd, fis wedi i'r ddeiseb gyntaf gael ei gwrthod mewn llys.

Bydd y ddeiseb ddiweddaraf, sydd wedi ei chyflwyno gan HMRC, yn mynd o flaen yr Uchel Lys yn Llundain ar 30 Ionawr.

Mae'r Crysau Duon yn parhau ar waelod y Gynghrair Genedlaethol.