Cynnydd yn nifer ymwelwyr â Chaerdydd dros y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Marchnad Nadolig Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r marchnad Nadolig wedi profi'n llwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf

Mae nifer yr ymwelwyr â chanol Caerdydd yn ystod cyfnod y Nadolig wedi bron â dyblu dros gyfnod o 10 mlynedd, yn ôl Cyngor Caerdydd.

Yn ôl ystadegau daeth 4.7 miliwn o bobl i'r brifddinas dros gyfnod Nadolig 2018 o'i gymharu â 2.3 miliwn yn 2008.

Dywed y cyngor bod y cynnydd yn ganlyniad "nifer fawr o ddigwyddiadau... i fywiogi canol Caerdydd", yn ogystal â strategaeth farchnata i ddenu pobl fyddai fel arall yn gwneud eu siopa Nadolig mewn dinasoedd fel Bryste.

"Fe gynhyrchwyd dros 50,000 o daflenni a dosbarthu rheiny i drefi a dinasoedd o fewn dwy awr i Gaerdydd fel bod pobl yn cael syniad o'r cynnig rhagorol sy' ganddon ni yn y brifddinas," meddai arweinydd y cyngor, Huw Thomas.

Ond fe bwysleisiodd nad yw'n fwriad i'r ddinas elwa ar draul trefi a phentrefi eraill y rhanbarth, gan ddadlau bod yna "le i'r ddau".

'Dim rhaid gyrru'

Dros y blynyddoedd diwethaf mae canol Caerdydd wedi gweld cryn fuddsoddiad gydag amryw o ddatblygiadau i geisio denu mwy o ymwelwyr i'r ardal.

Mae Marchnad Crefft y Nadolig a Gŵyl y Gaeaf, sy'n cynnwys rinc iâ awyr agored, yn denu miloedd o bobl yn yr wythnosau cyn y Nadolig.

Nifer o ymwelwyr i Gaerdydd yn Rhagfyr 2008-2018. .  .

Dywedodd Mr Thomas bod y ddinas â chyfuniad o siopau mawr ac annibynnol, a bod y cyngor yn gweithio ar annog cwmnïau bysiau i drefnu teithiau i Gaerdydd yn hytrach nag i ddinasoedd eraill.

"Gyda dinasoedd fel Bryste 'da ni'n cystadlu mewn gwirionedd," meddai.

Mae Mr Thomas hefyd yn annog pobl i wneud mwy o ddefnydd o'r trefniadau teithio ychwanegol dros gyfnod y Nadolig er mwyn lleihau tagfeydd traffig.

Ychwanegodd nad oes trefniadau parcio am ddim yng Nghaerdydd, yn wahanol i rannau eraill o Gymru, am fod y cyngor "yn gweld hynny fel rhan o'r strategaeth i annog pobl i beidio â gyrru... yn aml iawn does dim rhaid gyrru, gan fod yna opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael".

Marchnad wedi tyfu

Cwmni Craft Folk sy'n rheoli Marchnad Crefft Nadolig y ddinas.

Dywedodd llefarydd bod y farchnad honno "yn bendant wedi tyfu dros y blynyddoedd, nid yn unig drwy'r rhifau o bobl leol sy'n dod i ganol y ddinas, ond hefyd y teithiau bysiau a threnau arbennig".

Ychwanegodd bod dros 200 o grefftwyr yn rhan o'r farchnad yn 2018 a bod mwy o bobl wedi dod eleni, o bosib, o ganlyniad "cael ei dewis yn un o'r deg orau drwy Brydain yng nghylchgrawn Vogue yn 2018 am safon y gwaith, awyrgylch a chyfeillgarwch".