Ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ymddygiad rheolaethol
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ymddygiad rheolaethol neu gymhellol mewn perthnasau.
Mae'r ymgyrch - 'Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn' - yn ceisio helpu pobl adnabod arwyddion o reolaeth o fewn perthynas, a'i fod yn ffurf o gam-drin.
Cofnodwyd 9,053 o droseddau rheolaeth drwy orfodaeth gan yr heddlu ledled Cymru a Lloegr y llynedd, ac fe garcharwyd y rhai a erlynwyd am 17 mis ar gyfartaledd.
Mae Luke Hart yn cefnogi ymgyrch y llywodraeth. Fe wnaeth ei dad ladd ei fam a'i chwaer ar ôl iddo fod yn ymddwyn yn rheolaethol am dros 26 mlynedd tuag at y teulu.
'Saethu'
"Roedd fy nhad yn treulio rhan fwyaf o'r amser yn ein bychanu. Pedwar diwrnod ar ôl i ni symud allan o'r tŷ, fe saethodd nhw fesul un gan gynnwys ei hun,"
Yn ôl Luke, roedd ei dad yn defnyddio arian y teulu fel ffordd o'u rheoli.
"Yn aml doedden ni methu fforddio talu am betrol i adael y tŷ, neu doedd fy mam methu fforddio mynd am baned o goffi gyda'i ffrindiau, felly roedd fy mam yn gaeth i'r tŷ.
"Roedd y trais yn dod allan o nunlle, ond roedd y rheoli wedi bod yn cynyddu ac mae llofruddiaeth yn fath o reolaeth, dyna oedd y cam nesaf yn y daith," meddai.
Bellach mae Luke a'i frawd Ryan wedi trefnu grŵp o'r enw CoCo Awareness sy'n cynorthwyo pobl i siarad allan yn erbyn trais dynion yn erbyn merched a phlant.
'Codi ymwybyddiaeth'
Mae ymddygiad rheolaethol wedi bod yn anghyfreithlon ers 2015.
Dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: "Ymgyrch 'Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn' yw'r cam nesaf yn ein hymrwymiad parhaus i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru.
"Tan yn ddiweddar, doedd rheolaeth drwy orfodaeth ddim yn cael rhyw lawer o sylw.
"Gyda chymorth rhyfeddol goroeswyr a phartneriaid, rydyn ni'n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn codi ymwybyddiaeth o'r ymddygiad gwenwynig hwn ac yn grymuso mwy o bobl i ddod ymlaen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2018