'Dylai'r cyngor sir reoli Canolfan y Muni ym Mhontypridd'

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Gelfyddydau'r Muni
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ganolfan o fewn hen eglwys sy'n adeilad rhestredig

Dylai'r cyngor sir ystyried rheoli Canolfan y Muni ym Mhontypridd, yn ôl cyn-aelod o fwrdd llywodraethu'r ganolfan.

Caeodd y Muni ym mis Rhagfyr ar ôl i'r grŵp cymunedol sy'n rhedeg y ganolfan fynd i'r wal.

Y grŵp oedd yn gyfrifol am y Muni ers 2014, pan benderfynodd Cyngor Rhondda Cynon Taf gau'r ganolfan er mwyn arbed arian.

Dywedodd Heledd Fychan, cyn-ymddiriedolwr gwirfoddol y Muni sydd hefyd yn gynghorydd Plaid Cymru ar gyfer Pontypridd, y dylai'r cyngor ystyried rheoli'r ganolfan.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn chwilio am weithredwr newydd, a dywedodd y cyngor y byddai'n "gwneud popeth o fewn ei gallu ac o fewn y cyfyngiadau ariannol sydd yn ein hwynebu ar hyn o bryd, i gefnogi dyfodol cynaliadwy ar gyfer y ganolfan".

Ailagor y ganolfan?

Diwrnodau'n unig cyn y Nadolig fe gafodd staff y Muni wybod y byddai'r drysau yn cau.

Mewn blog yn dilyn y penderfyniad i gau, disgrifiodd Cyfarwyddwr Artistig y Muni, Yvonne Murphy, sut iddi ddarganfod "stori am reoli gwael a phenderfyniadau gwael" ar ôl dechrau ar ei gwaith dair mis yn gynharach.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Heledd Fychan yn ymddiriedolwr i'r Muni am gyfnod yn 2018

Dim ond yr adeilad mae'r cyngor yn ei reoli, ac maen nhw wedi hysbysebu am grŵp sydd â diddordeb ailagor y ganolfan.

Yn ogystal â llwyfan perfformio, mae lle yn y Muni am far, caffi a llefydd i gynnal gweithgareddau gan grwpiau lleol.

Dywedodd Heledd Fychan, a oedd yn ymddiriedolwr i'r Muni am gyfnod byr yn 2018, fod angen fwy o gymorth ariannol i osgoi "methu unwaith eto".

"Mae'r Muni ei hun yn chware rôl bwysig iawn ar gyfer grwpiau o bob oed, a dwi'n meddwl mai dyna pam mae'r golled yn cael ei theimlo. Mae wedi bod yn llawn pobl yn ystod y dydd.

"Mae o'n gymaint o ran o Bontypridd a phwy ydy Pontypridd, a heb y Muni mae pobl yn cwestiynu beth ydy dyfodol tref fel hyn."

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl bod rhaid i Gyngor Rhondda Cynon Taf feddwl o ddifri' rŵan os oedd o'r penderfyniad iawn ganddyn nhw i gau'r Muni."

Angen cefnogaeth ariannol

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Ar hyn o bryd mae cyfnod [tan 30 Ionawr] ble mae sefydliadau a grwpiau sydd â diddordeb i ddod yn denantiaid yn y Muni yn gallu gwneud datganiad o ddiddordeb ffurfiol.

"Mae'r cyngor eisoes wedi cadarnhau fod angen cefnogaeth ariannol barhaus er mwyn sicrhau'r cyfleoedd gorau posib i grwpiau allu datblygu cynllun busnes ymarferol - a bydd y cyngor yn ystyried hyn ar gyfer unrhyw gais y byddwn yn ei dderbyn."