Cyflogwyr o Gymru ymhlith cyflogwyr mwyaf cynhwysol y DU

  • Cyhoeddwyd
CynulliadFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol ymhlith y pum cyflogwr mwyaf cynhwysol yn y DU, yn ôl arolwg Stonewall

Ma' Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymhlith y pum lle gorau i weithio ym Mhrydain, o ran bod yn gynhwysol i bobl LHDT, yn ôl arolwg blynyddol elusen Stonewall.

Mae 12 cyflogwr o Gymru ymhlith y 100 cyflogwr uchaf sy'n cynnwys busnesau o bob sector.

Roedd Cwmni Bancio Lloyds yn seithfed ar y rhestr a Llywodraeth Cymru yn wythfed.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ray Vincent ei bod yn bwysig derbyn pobl fel y maent

Ray Vincent, caplan cyswllt Prifysgol De Cymru, a enillodd y wobr i'r unigolyn gorau am sicrhau cyfartaledd LHDT yn y gweithle.

Dywedodd: "Dwi am ddiolch i Gristnogion eraill am dderbyn fi fel ydw i - fel gweinidog Cristnogol dwin hollol ymwybodol o'r boen y mae pobl LHDT yn ei ddioddef gan agwedd eraill oddi fewn i eglwysi.

"Dwi wedi teimlo'r boen fy hun ac yn edifar bod rhai yn teimlo poen tebyg heddiw."

Y 12 cyflogwr o Gymru sydd ymhlith 100 rhestr Stonewall:

  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru (5)

  • Grŵp Bancio Lloyds (7)

  • Llywodraeth Cymru (8)

  • Prifysgol Caerdydd (11)

  • Swyddfa Eiddo Deallusol (13)

  • Cymorth i Ddioddefwyr (27)

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (37)

  • Prifysgol De Cymru (43)

  • Prifysgol Abertawe (47)

  • Eversheds Sutherland LLP (66)

  • Prifysgol Aberystwyth (79)

  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd (95)

Ffynhonnell y llun, AFP

'Cyflawni mwy'

Y llynedd dangosodd ymchwil gan Stonewall fod 35% o bobl LHDT wedi cuddio eu hunaniaeth yn y gweithle, a bod 18% wedi dioddef sylwadau negyddol gan gydweithwyr am eu rhywioldeb.

Wrth gydnabod llwyddiant y Cynulliad dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: "Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o gadw ei le yn y pum cyflogwr gorau ym Mynegai Cydraddoldeb y Gweithle Stonewall - am y bumed flwyddyn yn olynol."

"Mae'n dangos ein bod wedi datblygu a chynnal diwylliant cynhwysol sy'n dangos ymrwymiad y Senedd i gynrychioli holl gymunedau amrywiol Cymru.

"Rydym yn benderfynol o barhau i wneud y Cynulliad Cenedlaethol yn lle pleserus a gwerth chweil i weithio i bawb, gan ein bod o'r farn bod y sefydliad yn cyflawni mwy gyda gweithlu amrywiol a chynhwysol."