Swyddogion yn cau'r 'iard sgrap gwaethaf' yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae iard sgrap sydd wedi ei ddisgrifio fel un o'r safleoedd gwastraff gwaethaf yng Nghymru wedi cael ei gau i'w atal rhag llygru'r amgylchedd lleol.
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu bod wedi atal trwydded Clwyd Breakers Cyf ar Stad Ddiwydiannol Gardden yn Rhiwabon, ger Wrecsam.
Mae'n golygu ei fod wedi colli'r hawl i gadw, storio a datgymalu ceir ar y safle.
Dywedodd llefarydd ar ran CNC: "Er gwaethaf ymdrechion cyson gan swyddogion roedd y cwmni yn parhau i dorri telerau eu trwydded amgylcheddol."
Ychwanegodd fod y safle "wedi ei glirio ac nid yw'n creu bygythiad i'r amgylchedd lleol."
Ymhlith y problemau ar y safle roedd:
Llygredd olew
Olew a hylifau llygredig ddim yn cael eu storio'n iawn
Ceir ddim yn cael eu dadlygru'n iawn
Dim cynllun atal tân ar gyfer y safle
Gwastraff wedi'i storio yn y mannau anghywir
Roedd peth olew a hylifau eraill yn cael eu golchi i ddraeniau sy'n llifo i afonydd lleol gan fygwth pysgod a bywyd gwyllt arall.
Dywedodd Louise Peel, Uwch Swyddog Amgylcheddol CNC: "Rydyn ni wedi gweithio'n galed iawn gyda'r cwmni i'w galluogi i weithredu'r safle'n gyfrifol.
"Ond daeth yn amlwg mai ychydig o ymdrech roedden nhw'n wneud i gyflawni hynny," meddai.
"Fe ddylai pawb yn y diwydiant gwastraff ddeall bod rhaid iddynt gydymffurfio â thelerau eu trwydded amgylcheddol.
"Mae methu a gwneud hynny yn torri'r gyfraith ac mae'n bosibl y bydd canlyniadau difrifol iddyn nhw a'u busnes."
Yn y cyfamser mae CNC wedi lansio ymchwiliad i safle gwastraff arall yn yr ardal maen nhw'n amau o weithredu yn anghyfreithlon, ac i gysylltiadau posib i'r safle ar Stad Ddiwydiannol Gardden.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2018
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2018