Cymru yn y Chwe Gwlad mewn rhifau

  • Cyhoeddwyd

Chwe Gwlad, pymtheg gêm, un enillydd (os nad oes 'na ganlyniad cyfartal... ond awn ni ddim i hynny). Ydy, mae hi'r amser yna o'r flwyddyn unwaith eto.

Ond ydych chi wir yn barod? Ydy'r ffeithiau angenrheidiol ar flaenau eich bysedd, er mwyn i chi eu taflu i mewn i sgwrs yn y dafarn wrth wylio'r crysau cochion yn maeddu'r Saeson?

Yn ffodus, mae Cymru Fyw wrth law ag ambell i rif diddorol.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Cymru bob gêm yng nghyfres yr Hydref ac yn gobeithio am fwy o lwyddiant yn 2019

Yn y dechreuad...

Cyn y 'Chwe Gwlad' fe roedd pencampwriaeth y 'Pum Gwlad'... a chyn hynny roedd yr Home Nations Championship, (sef cystadleuaeth rygbi rhwng Cymru, Iwerddon, Yr Alban a Lloegr) a gafodd ei sefydlu yn 1883. Enillodd Cymru'r bencampwriaeth am y tro cyntaf 10 mlynedd yn ddiweddarach.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Tîm rygbi Cymru yn yr 1880au

Y Gamp Lawn

Yn 1908 enillodd Cymru'r Gamp Lawn am y tro cyntaf. Er nad oedd Ffrainc yn swyddogol yn rhan o'r bencampwriaeth tan 1910, bu gemau yn erbyn Les Bleus yn ystod 1908 ac 1909.

Bellach, mae Cymru wedi ennill y Gamp Lawn 11 o weithiau. Mae'r criw bach o chwaraewyr sydd wedi ennill y Gamp Lawn 3 gwaith yn cynnwys Gethin Jenkins, Ryan Jones, Adam Jones, Gareth Edwards, Gerald Davies a JPR Williams.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Y tîm a enillodd y Gamp Lawn am y tro cyntaf

Ennill weithiau, colli weithiau...

Mae Cymru wedi ennill y bencampwriaeth (pob fersiwn ohoni) 26 o weithiau, ac wedi rhannu'r wobr 12 o weithiau. Yn anffodus, rydyn ni wedi ennill y llwy bren 18 o weithiau (ond 'nawn ni ddim canolbwyntio ar hynny).

Y tro diwethaf i Gymry ennill y bencampwriaeth oedd 2013.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Thomas ac Michael Owen yn codi'r tlws yn 2005 wrth i Gymru ennill y Gamp Lawn

Merched medrus

Ers 1996, mae fersiwn o'r bencampwriaeth wedi cael ei chynnal rhwng timoedd rygbi cenedlaethol merched hefyd.

Mae'n dilyn yr un patrwm â thwrnamaint y dynion ers 2007, ond yn wahanol i'r dynion, ar un adeg, roedd Sbaen yn rhan o'r cystadlu.

Ffynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o’r llun,

Tîm rygbi merched Cymru wrth eu boddau â'u buddugoliaeth yn erbyn Lloegr ym mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2015

Capiau lu

Y chwaraewr sydd wedi chwarae yn y nifer fwyaf o gemau yn y Chwe Gwlad yw Gethin Jenkins, sydd wedi chwarae mewn 56 gêm.

Yn ail iddo, mae Stephen Jones â 50 cap, a Martyn Williams ac Alun Wyn Jones, y capten presennol, yn gyfartal gyda 48 ymddangosiad.

Bydd Alun Wyn Jones yn cael y cyfle i gynyddu ei gyfanswm ym mhencampwriaeth 2019.

Ffynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o’r llun,

Gethin Jenkins yn ffarwelio â'r Ffrancwyr yn ystod Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2016, cyn iddo ymddeol o chwarae rhyngwladol ar ôl gemau'r Hydref y flwyddyn honno

Cic fel mul

22 yw'r nifer fwyaf o geisiau mewn gemau Chwe Gwlad gan Gymro, sef Shane Williams. Gareth Edwards sydd yn ail, â 18 cais.

Stephen Jones sy'n dal record Cymru am y pwyntiau a sgoriwyd, sef 467. Neil Jenkins sy'n ail â 406, gyda Leigh Halfpenny'n drydydd â 379.

Ni fydd Halfpenny ddigon iach i chwarae yn y gêm agoriadol yn erbyn Ffrainc, ond pawb i groesi eu bysedd y bydd yn medru chwarae yn y gemau eraill.

Ffynhonnell y llun, Aurelien Meunier
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil Jenkins, hyfforddwr cicio'r tîm cenedlaethol, yn aml i'w weld yn sefyll tu ôl i Halfpenny pan mae'n cicio tuag at y pyst

Teuluoedd talentog y gorffennol

Mae'r teulu Quinnell wedi ennill 57 o gapiau mewn gemau Chwe Gwlad - Derek rhwng 1972 ac 1980, a'i feibion Scott a Craig yn y 90au a dechrau'r 00au.

Ond peidiwch ag anghofio fod Derek wedi priodi chwaer yr anfarwol Barry John a enillodd 19 o gapiau yn y bencampwriaeth sy'n dod â chyfanswm y teulu i 76.

Ffaith bonws: Tad bedydd Scott oedd Mervyn 'Merv the Swerve' Davies sy'n ychwanegu 31 cap i'r rhif!

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Cymru yn 1972 - Mervyn Davies yw'r pedwerydd chwaraewr o'r chwith yn y cefn, a Derek Quinnell y pedwerydd chwaraewr o'r dde yn y cefn

... a'r presennol

Mae capten presennol tîm rygbi merched Cymru, Carys Phillips, yn dilyn ôl troed ei thad (a'i hyfforddwr) Rowland Phillips drwy gynrychioli Cymru ar y cae rygbi. Rhyngddyn nhw, maen nhw wedi chwarae mewn 36 o gemau Chwe Gwlad.

Un o chwaraewyr eraill Cymru, Brian Thomas, oedd tad-yng-nghyfraith Rowland, sy'n dod â chyfanswm y teulu yma i 52.

Yn 26 oed, mae gan Carys ddigon o amser i gynyddu nifer ei chapiau.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Rowland a Carys Phillips - hyfforddwr a chapten tîm rygbi merched Cymru

Atgofion melys

Wyddoch chi pwy oedd sgoriwr cais olaf y Pum Gwlad, cyn i'r chweched gwlad - Yr Eidal - gael ei hychwanegu?

Scott Gibbs wrth gwrs, a hynny yn y gêm fythgofiadwy honno yn erbyn Lloegr yn 1999, 20 mlynedd yn ôl... Siŵr eich bod yn cofio'r canlyniad - 31-32!

Ffynhonnell y llun, Mark Leech/Offside
Disgrifiad o’r llun,

Y dyrfa'n gorfoleddu (o leia' rhai ohonyn nhw) wrth i Gibbs sgorio cais ym munudau olaf y gêm yn Wembley, gan dorri calonnau'r Saeson a oedd ar y ffordd i ennill y Gamp Lawn

Gawn ni obeithio am ganlyniadau tebyg eleni. C'mon Cymru!

  • Mae gêm agoriadol Ffrainc v Cymru am 20.00 nos Wener 1 Chwefror gyda sylwebaeth fyw ar BBC Radio Cymru ac S4C

  • Mae gêm agoriadol merched Ffrainc v Cymru am 20.00 Dydd Sadwrn 2 Chwefror yn fyw ar S4C