Trechu holl welliannau i ddeddfwriaeth Hawl i Brynu

  • Cyhoeddwyd
tai

Mae cynigion y Ceidwadwyr Cymreig fyddai wedi golygu oedi i fesur dileu hawl tenantiaid i brynu tai cyngor yng Nghymru wedi methu.

Roedd ACau Ceidwadol yn dadlau y dylai tenantiaid gael o leia' dwy flynedd i wneud cais i brynu eu tai wedi i'r ddeddf newydd ddod i rym, yn hytrach na'r 12 mis roedd gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi'i gynllunio.

Ond cafodd yr holl welliannau i'r mesur eu gwrthod yn y Senedd.

Bydd y bleidlais derfynol ar y ddeddfwriaeth yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 5 Rhagfyr ac mae disgwyl i'r hawl gael ei ddileu cyn Etholiad y Cynulliad yn 2021.

Llai o dai cyhoeddus

Mae tua 239,000 o dai cyngor a thai cymdeithasau tai yng Nghymru wedi cael eu gwerthu ers i'r ddeddf Hawl i Brynu gael ei chyflwyno gan lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher yn 1980.

Ers hynny mae'r stoc o dai dan berchnogaeth gyhoeddus yng Nghymru wedi lleihau 45%, ac yn ystod ymgyrch etholiadol 2016 fe wnaeth Llafur addo dod â'r polisi i ben er mwyn lliniaru'r broblem tai.

Disgrifiad o’r llun,

Margaret Thatcher yn cyflwyno prydles y tŷ cyngor cyntaf i gael ei werthu o dan ei pholisi newydd yn 1980

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar dai, David Melding, y byddai'r newyddion eu bod yn colli'r cyfle i brynu yn taro rhai tenantiaid "fel bom".

Mynnodd nad ydy blwyddyn yn ddigon o amser i bobl ddechrau ar y broses o brynu.

Ond dywedodd y Gweinidog Tai, Rebecca Evans, bod 12 mis yn gyfnod "teg a rhesymol."

"Mae'n rhoi digon o amser i denantiaid gael cyngor cyfreithiol ac ariannol am oblygiadau perchnogaeth tŷ," meddai.

Eisoes mae chwech o gynghorau sir Cymru - Ynys Môn, Caerdydd, Sir Gâr, Sir Ddinbych, Sir y Fflint ac Abertawe - wedi gohirio'r hawl i brynu yn eu hardaloedd.