Teulu Emiliano Sala yn ymweld â'r ardal chwilio

  • Cyhoeddwyd
Emiliano Sala's sister Romina at Cardiff City Stadium
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Romina Sala, chwaer Emiliano, ymweld â Chaerdydd wythnos ddiwethaf

Mae teulu Emiliano Sala wedi bod ar daith awyren er mwyn gweld yr ardaloedd mae achubwyr wedi bod yn eu harchwilio.

Gadawodd y teulu Faes Awyr Guernsey am 09:30 ddydd Llun yng nghwmni'r harbwrfeistr David Barker.

Dywedodd llefarydd ar ran y teulu eu bod nhw'n "ei chael yn anodd delio gyda'r ychydig iawn o atebion sydd ynglŷn â'u colled".

Mae'r chwilio am y pêl-droediwr 28 oed a'r peilot David Ibbotson, 59, wedi ailddechrau'n breifat ar ôl i ymgyrch codi arian gasglu dros €300,000.

Mae disgwyl i dimau ddechrau chwilio dan y dŵr ar y penwythnos.

'Rhyw obaith'

Dywedodd David Mearns, llefarydd ar ran y teulu: "Dyma deulu sydd wedi dod o'r Ariannin gyda'r sioc enfawr yma, ac maen nhw'n ei chael yn anodd delio gyda'r ychydig iawn o atebion sydd ynglŷn â'u colled aneglur."

Ychwanegodd bod gan y teulu "rhyw obaith", a'u bod yn trin y sefyllfa fel "person ar goll".

Ffynhonnell y llun, ITN
Disgrifiad o’r llun,

Fe adawodd hediad y teulu o Faes Awyr Guernsey yn gynnar fore ddydd Llun

Mae'r teulu, a deithiodd i'r ynys ddydd Sul i fod yn agos at ble cafodd yr awyren ei cholli a chael mwy o wybodaeth am beth fydd yn digwydd nesaf, wedi diolch i'r rheiny sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch i barhau i chwilio.

Mae chwaraewyr fel Kylian Mbappe ac Adrien Rabiot o Paris Saint-Germain, Dimitri Payet o Marseille, Ilkay Gundogan o Manchester City a Laurent Koscielny o Arsenal wedi cyfrannu at yr ymgyrch.

Mae'r Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr wedi lansio ymchwiliad i "bob agwedd o'r hediad".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Neil Warnock mai dyma wythnos galetaf ei yrfa

Mewn cynhadledd newyddion ddydd Llun, dywedodd rheolwr Caerdydd, Neil Warnock, ei fod yn credu iddo deithio ar awyren gyda'r peilot sydd wedi diflannu.

Er nad oedd yn gallu cadarnhau, esboniodd ei fod wedi teithio i Nantes ambell waith ar awyrennau tebyg a'i fod yn meddwl bod Mr Ibbostson yn beilot "gwych".

'Wythnos galetaf fy ngyrfa'

Aeth Warnock ymlaen i ddisgrifio pa mor anodd mae'r wythnos diwethaf wedi bod i bawb yn ymwneud â Chlwb Pêl-droed Caerdydd.

"Rydw i wedi bod yn rheolwr ers 40 mlynedd erbyn hyn, a dyma wythnos galetaf fy ngyrfa o bell ffordd," meddai.

"Dydw i dal methu gwneud synnwyr o'r holl sefyllfa... mae'r holl beth wedi bod yn drawmatig ac rydw i'n cydymdeimlo'n enbyd gyda'r teulu.

"Mae'r teimlad o amgylch y clwb wedi bod yn ddigalon a dwi erioed wedi gweld y fath beth... mae'r effaith wedi bod yn amlwg ar y chwaraewyr wrth hyfforddi hefyd."

Ychwanegodd bod ymateb cefnogwyr Caerdydd a chefnogwyr Nantes wedi bod yn "ardderchog".