Darganfod rhan o sedd awyren wrth chwilio am Emiliano Sala
- Cyhoeddwyd

Tynnwyd y lluniau o'r glustog gan Josette Bernard wrth gerdded ar y traeth, ac mae ymchwilwyr yn credu y gallent fod wedi dod o'r awyren
Mae'r Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr yn credu eu bod nhw wedi darganfod rhannau o sedd o'r awyren a ddiflannodd tra'n cludo'r pêl-droediwr Emiliano Sala i Gaerdydd.
Mae'r gangen wedi bod yn ymchwilio i "bob agwedd" o ddiflaniad yr awyren Piper Malibu ddiflannodd dros Fôr Udd wythnos ddiwethaf.
Fore Llun fe wnaeth ymchwilwyr Ffrengig ddarganfod rhan o glustog sedd awyren ar draeth ger Surtainville, Ffrainc, ac yn dilyn asesiad manwl y gred yw bod y darnau wedi dod o'r awyren coll.
Cafodd darn arall o glustog hefyd ei ddarganfod yn ddiweddarach dydd Llun.
Dywedodd yr ymchwilwyr eu bod nhw wedi amlygu ardal pedair milltir sgwâr o fôr fel ffocws ar gyfer y gwaith chwilio, a bod ymchwiliad tanddŵr wedi cael ei gomisiynu.
Bydd technoleg sonar yn cael ei ddefnyddio er mwyn chwilio ar hyd gwely'r môr, ond oherwydd natur y tywydd mae disgwyl i'r gwaith chwilio gael ei ohirio tan ddiwedd y penwythnos.
"Rydyn ni'n ymwybodol bod gwaith chwilio preifat hefyd yn cael ei gynnal yn yr ardal, ac rydyn ni'n cydweithio yn agos gyda'r rhai sy'n ymwneud â hynny," meddai llefarydd ar ran y Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr.
Ychwanegodd: "Ein swyddogaeth ni yw ymchwilio i achosion damweiniau, nid rhannu bai neu atebolrwydd."

Daeth Josette Bernard o hyd i ddarn o sedd awyren ar draeth Surtainville

Traeth Surtainville, yn edrych tuag at Le Rozel, ble cafodd rhannau o sedd eu darganfod
Fe wnaeth yr ymosodwr 28 oed o'r Ariannin ymuno â Chaerdydd o Nantes am £15m - y swm uchaf erioed i'r Adar Gleision dalu am chwaraewr.
David Ibbotson, 59, oedd yn hedfan yr awyren pan ddiflannodd am tua 20:30 ar Ionawr 21.
Er bod timau wedi chwilio dros 1,700 milltir sgwâr o Fôr, nid oedd yna'r un golwg o'r awyren na'i theithwyr felly fe ddaeth y gwaith chwilio swyddogol i ben ddydd Iau.
Ar ôl i ymgyrch codi arian gasglu dros €300,000 fe wnaeth y chwilio ailddechrau'n breifat ddydd Sadwrn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2019