Cymru'n colli cyfleoedd ynni morol oherwydd diffyg cefnogaeth
- Cyhoeddwyd

Mae technoleg "barcutiaid" Minesto yn manteisio ar ynni o'r llanw
Mae Cymru wedi colli allan ar sawl cynllun ynni morol oherwydd diffyg cefnogaeth Llywodraeth y DU, yn ôl cadeirydd y Cyngor Ynni Morol.
Dywedodd Sue Barr fod Canada a Ffrainc wedi elwa ar filiynau o bunnau o fuddsoddiad mewn cynlluniau ynni morol allai fod wedi dod i Gymru.
Yn ôl Minesto - datblygwr ynni o Sweden, sydd a'i bencadlys Prydeinig yng Nghaergybi - mae cymhorthdal i'r sector gan Lywodraeth y DU yn "absennol".
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb.
'Camgymeriad enfawr i beidio manteisio'
Yn ôl adroddiad gan y Cyngor Ynni Morol, gallai'r diwydiant fod werth £76bn i'r Deyrnas Unedig erbyn 2050, gyda mwy na 12,000 o swyddi yn cael eu creu erbyn 2040.
Fe fyddai Cymru yn elwa o'r ffigwr yma meddai'r adroddiad, gan bod yr arfordir yn leoliad addas i'r diwydiant.
Y perygl, medd Prif Weithredwr Minesto Dr Martin Edlund, yw y bydd Cymru'n colli cyfle euraidd i arwain yn y maes.

Sut mae cynhyrchu ynni o'r llanw yn gweithio?
Osian Roberts o Minesto sy'n esbonio'r dechnoleg y mae'r cwmni wedi ei ddatblygu

Beth ydy cynllun cwmni Minesto?
Mae Minesto am osod 120 o dyrbinau arloesol i ffrwyno grym y llanw mewn pant yng ngwely'r môr oddi ar Gaergybi;
Gallai'r cynllun £160m gynhyrchu digon o drydan i gyflenwi Ynys Môn, a darparu 100 o swyddi;
Mae'r cwmni wedi derbyn £11.3m o nawdd yr Undeb Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru er mwyn profi'r dechnoleg;
Maen nhw'n awyddus i fwrw ati yn fasnachol - ond yn dweud bod angen addewid o gymhorthdal gan Lywodraeth y DU yn gyntaf.

'Potensial' yng Nghymru
Ers 2017, mae cynlluniau o'r fath wedi gorfod cystadlu am gytundebau arian cyhoeddus yn erbyn technolegau aeddfetach fel ffermydd gwynt yn y môr, gan fethu a denu cymhorthdal o ganlyniad.
Erbyn hyn mae cwmnïau tebyg sy'n arloesi mewn ynni llanw a thonnau yn troi cefn ar y DU, meddai Dr Edlund.
"Mae 'na brosiectau allai fod wedi'u hariannu yn y DU yn mynd i Ganada, Ffrainc a rhanbarthau eraill. A'r gwledydd rheini yn gweld cyfle i achub y blaen o ran arwain yn y maes," meddai.
"Os edrychwch chi ar botensial ynni llanw yng Nghymru gallai fod yn ddiwydiant glo newydd - fyddai'n para am byth."
"Fe fyddai'n gamgymeriad enfawr i beidio manteisio ar hyn."

Os nad yw Cymru'n manteisio ar gyfleoedd ynni, byddan nhw'n cael eu "hallforio" meddai Owain Llywelyn
Mae cefnogwyr cynlluniau llanw a thonnau yn mynnu bod angen cymysgedd o ffynonnellau trydan adnewyddadwy yn y dyfodol os yw Prydain i symud yn llwyr at ynni glan i atal newid hinsawdd,
Yng Nghymru mae dau barth arbrofi wedi'u sefydlu - oddi ar arfordir Sir Benfro ac Ynys Môn - a thros €100m mewn arian o'r Undeb Ewropeaidd wedi'u clustnodi i helpu'r diwydiant i ffynnu.
'Gall Cymru fod yn dempled'
Yn ôl Owain Llywelyn, llefarydd ar ran y Sefydliad Syrfeiwyr Brenhinol a darlithydd ym Mhrifysgol De Cymru gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, "mi allai Cymru fod yn dempled i nifer o wledydd drwy'r byd i gyd, gyda thipyn bach o ffydd ac ewyllys da".
Mae'n dweud bod yn rhaid i Lywodraeth y DU ddangos ffydd yn y diwydiant er mwyn sicrhau buddsoddiad preifat, yn enwedig wrth baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.
"Does dim dwywaith fod y byd yn un cystadleuol - ac os nad ydy Cymru mynd i gymryd y cyfleoedd yna allwch chi fod yn sicr y byddan nhw'n cael eu hallforio heb unrhyw fudd o gwbl i Gymru."

Dywedodd Cai Ladd bod her "enfawr" yn ein hwynebu o ran ynni
Mae eraill yn dadlau y dylid blaenoriaethu gwynt a solar - sydd wedi gweld y gost o'u hadeiladu a'u gweithredu yn gostwng yn ddramatig yn ystod y degawdau diwethaf, o gofio bod y cymhorthdal sy'n cael ei dalu i helpu prosiectau ynni yn cael ei ychwanegu at filiau cwsmeriaid ar hyn o bryd.
Ond yn ôl Dr Cai Ladd, o Ysgol Gwyddorau Môr Prifysgol Bangor, mae'n bwysig cofio y cafodd y technolegau hynny gymorthdaliadau breision yn y dyddiau cynnar i'w helpu i ddatblygu.
"Mae'n rhaid i ni symud draw i dechnoleg cynaliadwy, y'n ni wedi buddsoddi lot mewn melinau gwynt yn y gorffennol felly mae'n bwysig bod hynny dal yn bolisi cryf [i Lywodraeth y DU] yn y dyfodol.
"Mae 'na her enfawr yn eu hwynebu [o ran ynni], yn enwedig wrth i ni weld technoleg ynni niwclear yn cael ei ganslo mewn llefydd fel Wylfa B."
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb, tra bod Llywodraeth Cymru'n dweud ei fod yn bryd i Lywodraeth y DU edrych "o ddifrif ar ddichonoldeb cynlluniau technoleg forol yng Nghymru".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2017
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2014