Llafur a Plaid Cymru'n galw am baratoi at bleidlais gyhoeddus
- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau Cynulliad wedi pasio cynnig i alw ar Lywodraeth y DU i wneud paratoadau ar gyfer refferendwm arall ar Brexit.
Roedd y cynnig, a drefnwyd ar y cyd rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, yn galw am "waith i ddechrau ar unwaith i baratoi am bleidlais gyhoeddus".
Cefnogodd ACau Llafur Cymru a Phlaid Cymru'r cynnig, ond fe wrthwynebodd ACau y Ceidwadwyr Cymreig ac UKIP.
Cafodd y cynnig ei eirio i alw ar Lywodraeth y DU i baratoi am refferendwm, yn hytrach na galw am refferendwm yn syth bin.
Golyga nad oedd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn tynnu'n groes i safbwynt y Blaid Lafur am Brexit, gan ei alluogi i gefnogi ei gydweithwyr sydd o blaid refferendwm.
Mynnodd Mr Drakeford mai ceisio'i orau i roi gymaint o amser â phosib i drafod cytundeb Brexit yw ei fwriad.
'Safbwynt bendant Llywodraeth Cymru'
Roedd y cynnig hefyd yn beirniadu Llywodraeth y DU am fethu trafod gyda'r sefydliadau datganoledig a phleidiau eraill, ac yn galw am ymestyn Erthygl 50 a gwrthod Brexit heb gytundeb.
Yn ôl Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, mae Cynulliad Cymru yn "arwain y ffordd" wrth gefnogi paratoi tuag at refferendwm.
"Mewn cyfnod o argyfwng, mae'r bobl yn disgwyl i'w cynrychiolydd etholedig i fod yn aeddfed a chydweithio i sicrhau eu buddiannau, a dyma pam fod Plaid Cymru wedi penderfynu cydweithio gyda Llywodraeth Llafur Cymru i ddod o hyd i ddatrysiad sydd o fudd i bobl Cymru, ac ar hyd Prydain gyfan," meddai.
"Mae'n rhaid i'r blaid Lafur yn Llundain wrando ar safbwynt pendant Cynulliad Cymru - lle mae ei phlaid hi ei hun yn arwain y llywodraeth, a chefnogi ein galwad i ddechrau paratoadau am Bleidlais y Bobl ar unwaith."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2018