Diddymu euogfarn Noel Jones am ddynladdiad Janet Commins

  • Cyhoeddwyd
Noel JonesFfynhonnell y llun, Andy Kelvin
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Noel Jones dreulio chwe blynedd dan glo

Mae dyn dreuliodd chwe blynedd dan glo am ladd merch ysgol yn Sir y Fflint yn yr 1970au wedi ennill apêl yn erbyn ei euogfarn.

Cafwyd Noel Jones, 61, yn euog o ddynladdiad Janet Commins, ac fe dreuliodd chwe blynedd o'i ddedfryd o 12 mlynedd yn y carchar.

Ond fe wnaeth Mr Jones apelio yn erbyn y penderfyniad wedi i dechnoleg DNA arwain at gael Stephen Hough yn euog o'r drosedd yn 2017.

Fe wnaeth y Llys Apêl ddiddymu euogfarn Mr Jones ddydd Iau, gan ddweud bod "anghyfiawnder difrifol" wedi digwydd 41 blynedd yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Janet Commins yn 15 oed pan gafodd ei lladd yn 1976

Roedd Mr Jones, oedd yn 18 oed pan gafwyd yn euog, wedi cyfaddef lladd Janet, 15, ac ni benderfynodd herio ei euogfarn nes i Hough gael ei erlyn.

Dywedodd wrth y llys bod hyn oherwydd ei fod yn Sipsi ag anawsterau dysgu, oedd wedi'i wneud yn "fwch dihangol" gan yr heddlu.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Stephen Hough yn euog yn 2017 o ddynladdiad Janet Commins

Fe wnaeth Janet ddiflannu ar ôl gadael ei chartref i fynd i nofio ar 7 Ionawr 1976, a cafodd ei chorff ei ddarganfod pedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Cafwyd Hough yn euog o'i dynladdiad yn 2017, ac fe gafodd ei ddedfrydu i gyfanswm o 15 mlynedd o garchar.

Fe ddaeth hynny wedi iddo gael ei arestio yn 2016 mewn cysylltiad ag achos arall, a phan gafodd DNA Hough ei roi yn y system daeth i'r amlwg mai ef oedd yn gyfrifol am ladd Janet 'nôl yn 1976.