Arddangosfa Leonardo da Vinci yn dod i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd
Olion bys-bawd Leonardo da Vinci sydd yn serennu mewn arddangosfa newydd o waith yr artist yng Nghaerdydd.
Mae'r Amgueddfa Genedlaethol yn un o nifer o leoliadau ledled y DU sy'n gweithio ar y cyd i ddangos lluniau Leonardo da Vinci o gasgliad y Royal Collection.
Mae'r arddangosfa yn nodi 500 mlynedd ers marwolaeth da Vinci.
12 o'i luniau sydd i'w gweld yn y brif ddinas, gan gynnwys darlun anatomegol o fenyw sy'n cynnwys olion bys-bawd yr arlunydd.
Gall ymwelwyr ddefnyddio chwyddwydr i edrych ar y llun, ac mae olion ei fawd yn hynod o glir o ystyried oedran y gwaith.
Mae'r lluniau'n rhan o gasgliad mawr o waith da Vinci sydd dan ofal y Frenhines, ac sydd wedi'u cadw gyda'i gilydd ers marwolaeth yr artist yn 1519.
Oherwydd natur fregus y gwaith, dydy'r lluniau byth yn cael eu harddangos yn barhaol ac maen nhw ond yn cael eu dangos am ychydig fisoedd ar y tro i'w diogelu rhag eu niweidio gan y golau.
Fel arfer Castell Windsor ydy cartref y casgliad o luniau, a'r arddangosfa yma o luniau mewn 12 safle gwahanol ydy'r dangosiad mwyaf arwyddocaol o'r gwaith hyd yma.
Leonardo da Vinci oedd arlunydd ag ysgolhaig amlycaf y Renaissance, ac mae gan ei gelf cysylltiad agos â'i ddiddordeb mewn natur a gwyddoniaeth.
Mae arddangosfa Caerdydd yn cynnwys lluniau o fabanod, sgerbwd a phlanhigion.
Ochr yn ochr â darluniau da Vinci, mae Amgueddfa Cymru wedi creu arddangosfa o arteffactau o'i archif i gefnogi natur artistig a gwyddonol gwaith Leonardo.
Mae'r oriel yn cynnwys tacsidermi, printiau botanegol a modelau cwyr.
Bydd y gwaith yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Cymru Caerdydd rhwng 1 Chwefror a 6 Mai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2018