Caerdydd yn denu Bacuna wedi cyfnod trosglwyddo anodd
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwrnod olaf y cyfnod trosglwyddo mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi arwyddo chwaraewr canol cae Reading, Leandro Bacuna am ffi o £4m.
Mae Bacuna, gynt o Aston Villa, hefyd yn gallu chwarae fel amddiffynnwr de - un o'r safleoedd roedd y rheolwr, Neil Warnock yn benderfynol o'i gryfhau.
Hefyd mae'r Adar Gleision wedi arwyddo'r ymosodwr ifanc, Danny Williams, o Hwlffordd ond mae disgwyl iddo ymuno â'r garfan dan-23.
Mae cyfnod trosglwyddo eleni wedi bod yn anodd ac anarferol i'r clwb wedi diflaniad yr ymosodwr, Emiliano Sala.
Ar ôl ymdrechu am wythnosau i'w ddenu o glwb Nantes, fe ymuodd yr Archentwr â Chaerdydd am ffi o tua £15m ar Ionawr 19, gan dorri record y clwb.
Ddeuddydd yn ddiweddarach fe ddiflannodd awyren fechan y roedd Sala yn teithio arni dros Fôr Udd wrth iddo adael Ffrainc a pharatoi i hyfforddi gyda'i dîm newydd.
Yn dilyn gwaith chwilio eang mae'r Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr bellach yn credu eu bod nhw wedi darganfod rhannau o sedd o'r awyren.
Fe ymunodd Sala â'r clwb yn fuan wedi i'r Adar Gleision gyhoeddi bod Oumar Niasse wedi ymuno ar fenthyg o Everton am weddill y tymor.
Mae gan Gaerdydd yr opsiwn i brynu'r ymosodwr ar ddiwedd y tymor am ffi o £7m.
Er i Gaerdydd gael eu cysylltu gyda sawl chwaraewr arall dros y mis diwethaf, gan gynnwys Nathaniel Clyne, Adrien Tameze ac Almamy Touré, ni ddaeth un rhywbeth cadarn o'r sibrydion hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2019