Bywyd newydd i hen doiledau cyhoeddus yn Llandaf
- Cyhoeddwyd
Bydd hen doiledau cyhoeddus yn Llandaf yn cael bywyd newydd, wedi i elusen dderbyn grant i'w haddasu'n ganolfan i bobl hŷn.
Mae'r elusen Llandaff 50+ wedi derbyn grant o £200,000 o Raglen Cyfleusterau Cymunedol gan Lywodraeth Cymru.
Y bwriad yw addasu'r toiledau cyhoeddus a buarth gwartheg canoloesol yn ardal i bobl hŷn allu gwirfoddoli i redeg gweithgareddau i'r gymuned.
Yn ôl un o noddwyr yr elusen, bydd yn "gyfle i'r gymuned ddod at ei gilydd".
'Datblygiad bywiog'
Prif fwriad yr elusen sy'n gyfrifol am ddatblygu The Pound, a fydd ar ben uchaf Stryd Fawr Llandaf, yw creu canolfan weithgareddau i bobol hŷn, canolfan wybodaeth dreftadol a thoiled hygyrch.
Cafodd yr adeilad ei drosglwyddo i'r elusen gan Gyngor Caerdydd, er mwyn mynd i'r afael ag unigrwydd a theimlo'n ynysig ymhlith pobl hŷn.
Penseiri lleol, Downs Merrifield, fydd yn gyfrifol am addasu'r toiledau.
Dywedodd y Farwnes Ilora Finley, sy'n noddwr i'r elusen: "Mae'r prosiect pwysig yma'n darparu cyfleuster i'r gymuned ddod at ei gilydd a chryfhau talentau unigryw pob un yn Llandaf.
"Wrth i ni fyw drwy gyfnodau gwahanol yn ein bywydau, mae ein rôl yn y gymuned yn newid.
"Mae'r datblygiad bywiog yma yng nghanol Llandaf yn mynd i fod yn ddelfrydol i grwpiau bach o bob oed i rannu'r talentau hynny a mwynhau bod gyda'i gilydd."
Bydd Llandaff 50+ hefyd yn lansio cynllun i bobl gyfrannu £10 bob mis i sicrhau fod y prosiect yn un cynaliadwy, ynghyd ag ymgeisio am grantiau pellach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2018