Undeb athrawon NASUWT yn canslo streic Ysgol Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Logo

Mae undeb athrawon wedi penderfynu canslo streic deuddydd yn Ysgol Aberteifi yr wythnos hon.

Roedd aelodau yr NASUWT wedi bwriadu gweithredu ddydd Mawrth a dydd Mercher mewn anghydfod yn ymwneud â'r hyn maen nhw'n ei alw'n "arferion rheoli andwyol".

Yn ôl llefarydd ar ran yr undeb daw'r penderfyniad er mwyn caniatáu rhagor o drafodaethau gyda'r cyngor sir.

Dywedodd datganiad gan yr NASUWT: "Oherwydd y datblygiadau yn y trafodaethau gyda'r cyflogwyr gwnaed penderfyniad i beidio gweithredu'n ddiwydiannol er mwyn hwyluso'r trafodaethau ymhellach.

"Mae'r dyddiad sydd wedi ei osod ar gyfer streic yr wythnos nesaf yn aros yn ei le."

Disgrifiad o’r llun,

Mae aelodau'r undeb eisoes wedi cynnal streic undydd

Dywed yr undeb bod staff a chyn-aelodau staff yn honni bod arferion rheoli'r ysgol wedi creu "diwylliant o ofn".

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth ymchwiliad gafodd ei gomisiynu gan Gyngor Ceredigion ddod i'r casgliad "nad oes unrhyw dystiolaeth o fwlio neu fygwth".

Dywedodd yr NASUWT fod yr adroddiad wedi gwyngalchu'r sefyllfa.

Maen nhw eisoes wedi cynnal streic undydd, gan ddweud mai hwn oedd y cyntaf mewn cyfres o chwe diwrnod o streicio dros yr anghydfod.