Marwolaeth nyrs: Chwe blynedd o garchar i ddyn 20 oed

  • Cyhoeddwyd
Osian Hicks-ThomasFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Osian Hicks-Thomas ei ddedfrydu i chwe blynedd o garchar a'i wahardd rhag gyrru am 13 mlynedd a chwe mis

Mae dyn 20 oed a fu'n rhan o wrthdrawiad a achosodd marwolaeth nyrs wedi cael dedfryd o garchar.

Cafodd Osian Hicks-Thomas o Gricieth ddedfryd o chwe blynedd ar ôl iddo bledio'n euog i achosi marwolaeth Rebecca Louise Edwards, 34, drwy yrru'n beryglus.

Cafodd hefyd ei atal rhag gyrru am 13 mlynedd a chwe mis yn Llys y Goron Caernarfon.

Bu farw Ms Edwards yn syth wedi'r gwrthdrawiad ar yr A499 ym Mhenrhos, Pwllheli ar 21 Rhagfyr 2018.

Ar ôl iddo ffoi o safle'r gwrthdrawiad, cafodd Hicks-Thomas ei arestio a'i gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, peidio â stopio wedi gwrthdrawiad a pheidio rhoi gwybodaeth am y gwrthdrawiad.

Yn ôl y Barnwr Huw Rees, roedd Hicks-Thomas wedi ceisio cynnig £40 i yrrwr tacsi i yrru tu ôl iddo rhag ofn i'r heddlu ddod ar ei ôl, ac roedd dyn arall wedi ymbil arno i beidio â gyrru'r noson honno.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Ms Edwards wedi dweud eu bod yn wynebu "dedfryd bywyd o dorcalon, gwacter a cholled" hebddi

Dywedodd Sarjant Meurig Jones ar ran Heddlu'r Gogledd eu bod yn diolch i'r cyhoedd am eu cymorth yn ystod yr ymchwiliad a'u bod yn cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau Ms Edwards.

Ychwanegodd na ddangosodd Hicks-Thomas "unrhyw barch" at unrhyw un y noson honno, wedi iddo adael safle'r gwrthdrawiad.

"Er ei fod bellach yn gorfod wynebu ei weithredoedd, ni all dedfryd o fath yn y byd wneud yn iawn am golli bywyd a'r galar a achoswyd."

Dedfryd yn 'sarhad'

Dywedodd datganiad ar ran teulu Ms Edwards eu bod o'r farn fod y ddedfryd yn "sarhad".

"Ar ôl bwrw'i ddedfryd fer yn y carchar bydd eto'n ddyn rhydd, tra'n bod ni fel teulu wedi ein dedfrydu i fywyd o dorcalon, gwacter a cholled heb Rebecca.

"Bydd ein bywydau ni byth yr un fath."