Ymgyrch i gael gwared â mincod Americanaidd o Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun newydd ar ddechrau yn Ynys Môn i geisio cael gwared â mincod Americanaidd o'r ynys.
Mamaliaid bychain yw mincod sydd yn byw ger afonydd neu gamlesi.
Fe gafodd yr ysglyfaethwr ei gyflwyno i Brydain yn yr 1920au i ffermio ffwr, ond fe wnaeth nifer ddianc ac ers hynny wedi effeithio ar niferoedd sawl rhywogaeth gynhenid fel y llygoden ddŵr.
Mae cadwraethwyr wedi derbyn mwy o gyllideb i fynd ati i ddifa yr anifail gyda'r bwriad o sicrhau fod yr ynys yn 'rhydd o fincod'.
Mae'r cynllun wedi derbyn £49,000 gan Lywodraeth Cymru, a bydd gwirfoddolwyr o'r ynys yn cael eu hyfforddi i fonitro afonydd ac ardaloedd lle mae'r mincod yn debygol o fyw.
Gobaith y trefnwyr yw bod cael gwared â'r mincod yn arwain at gynnydd yn niferoedd y llygod dŵr ar yr ynys.
"Mae'r cynllun yn hanfodol i ddyfodol llygod dŵr Ynys Môn", yn ôl Dafydd Gruffydd, rheolwr gyfarwyddwr gyda Menter Môn - sy'n helpu rheoli'r prosiect.
"Mae gan Fenter Môn dros 20 mlynedd o brofiad o amddiffyn rhywogaethau cynhenid megis y wiwer goch a'r dyfrgi, felly rydyn ni mewn lle da i sicrhau fod y cynllun yn llwyddo."
"Bydd y prosiect hefyd yn gweithio gydag ysgolion cynradd y sir er mwyn cyflwyno llygod dwr i'r disgyblion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd19 Mai 2017