AS Ynys Môn yn beirniadu sylw 'gwladoli' Wylfa Newydd

  • Cyhoeddwyd
Albert OwenFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Albert Owen, AS Ynys Môn, ei fod yn bwriadu gofyn i Hiroaki Nakanishi am eglurdeb am ei sylwadau am Wylfa Newydd

Mae Aelod Seneddol Ynys Môn wedi beirniadu un o benaethiaid y cwmni y tu ôl i gynllun i adeiladu atomfa newydd gwerth £12bn.

Cafodd Cadeirydd Hitachi, Hiroaki Nakanishi, ei ddyfynnu'n dweud mai gwladoli'r fenter yw'r unig ffordd o ailddechrau'r gwaith ar Wylfa Newydd.

Dywedodd AS Llafur Ynys Môn, Albert Owen, nad oedd y sylwadau gafodd eu gwneud mewn fforwm yn Davos ym mis Ionawr yn helpu'r achos.

Cadarnhaodd Hitachi ym mis Ionawr eu bod yn bwriadu atal y gwaith ar adeiladu Wylfa Newydd yn sgil costau adeiladu.

Roedd disgwyl i 9,000 o weithwyr fod yn rhan o'r gwaith adeiladu ar gyfer dau adweithydd niwclear, a oedd i fod dod yn weithredol yn 2020au.

Ymddangosodd Ysgrifennydd Busnes ac Ynni y DU, Greg Clarke, o flaen pwyllgor o ASau ddydd Mercher.

Dywedodd ei fod yn dal yn bosib i weithio tuag at Wylfa "erbyn y 2030au os oes modd cytuno ar fodel ariannu".

'Chwilio am eglurder'

Dywedodd Mr Owen wrth Mr Clarke: "Nid yw'n helpu'r achos pan fo cadeirydd Hitachi yn mynd i Davos, lle dwi'n meddwl bod gwleidyddion a dynion busnes hŷn yn mynd yn fwriadol llai ymwybodol nag arfer, a dweud yn benodol mai, ac yn ei eiriau ef, 'gwladoli yw'r unig lwybr i achub y prosiect niwclear yma'.

"Mae 400 o bobl yn fy etholaeth yn derbyn llythyrau diswyddo.

"Mae'r cwmni yn gwneud datganiad i ddweud ei fod yn atal hyn ac yn cynnig amserlen, ac fel y dywedwch chi, yn chwilio am fodel arall.

"Ond yna mae cadeirydd y cwmni hwnnw yn gwneud y datganiad cyhoeddus hwn."

Dywedodd Mr Owen y byddai'n "chwilio am eglurder" gan Mr Nakanishi.

Dywedodd Mr Clarke wrth ASau nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu gwladoli'r fenter.