Cwymp yn nifer y ceisiadau i brifysgolion yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y darpar fyfyrwyr sy'n gwneud cais am le ym mhrifysgolion Cymru wedi gostwng eto eleni, yn ôl ffigyrau gan y gwasanaeth mynediad UCAS.
Bu gostyngiad o 2.5% o'i gymharu â'r llynedd, sy'n cynnwys gostyngiad o 10% yn nifer y ceisiadau o'r UE.
Dywedodd Prifysgolion Cymru fod y gostyngiad yn cyd-fynd â'r ffaith fod yna lai o bobl 18 oed fel canran o'r boblogaeth.
Ychwanegodd y corff nad ydi'r ffigyrau yn adlewyrchu'r cynnydd sydd wedi bod yn nifer y myfyrwyr rhan amser.
Ledled y DU roedd yna gynnydd o 0.4% yn nifer y ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr, ond gostwng wnaeth nifer y ceisiadau mewnol o'r DU.
O ran prifysgolion Cymru roedd gostyngiad yn nifer y ceisiadau o'r DU a'r UE ond cynnydd o 6% yn nifer y ceisiadau rhyngwladol o du allan i'r Undeb Ewropeaidd.
Mae myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru yn cyfateb i 24% o'r rhai sy'n gwneud ceisiadau i astudio ym mhrifysgolion y wlad.
Bu gostyngiad o 1.5% yng nghanran y myfyrwyr o Gymru sydd wedi ceisio am le i brifysgolion yng Nghymru.
Mewn datganid dywedodd Prifysgolion Cymru, yn gyffredinol o safbwynt poblogaeth fod yna ostyngiad o 2.3% wedi bod yn nifer y rhai sy'n 18 oed.
"Mewn blynyddoedd blaenorol, mae ffigyrau ar gyfer prifysgolion Cymru wedi cynyddu rhwng Ionawr a'r cyfnod mynediad.
"Dyw'r ffigyrau yma ddim yn adlewyrchu elfen bwysig o addysg uwch yng Nghymru, sef y pwyslais sydd yna ar ffyrdd gwahanol i'r traddodiadol o gael mynediad i addysg uwch, er enghraifft drwy astudiaeth rhan amser."
Ychwanegodd y datganiad eu bod yn falch o weld cynnydd da yn nifer y ceisiadau o wledydd tu allan i'r UE.
Yr wythnos diwethaf dywedodd Llywodraeth Cymru fod set gwahanol o ffigyrau wedi dangos cynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr rhan amser - a dyw'r rhain heb eu cynnwys yn ffigyrau UCAS.
Dywedodd Ysgrifennydd Addysg Cymru, Kirsty Williams, fod hyn yn bleidlais o hyder yn y system newydd gafodd ei chyflwyno yn 2018 ac sy'n cynnwys mwy o gymorthdaliadau i fyfyrwyr rhan amser.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd14 Awst 2018
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2018