Dim arian i ysgol gynradd Casnewydd er pryder llygod

  • Cyhoeddwyd
ysgol gynradd monnow

Ni fydd ysgol gynradd yng Nghasnewydd yn derbyn arian i adfer yr adeilad, er bod pryder y gall llygod mawr ddod i mewn drwy'r ffenestri.

Cafodd pryderon dros les plant Ysgol Gynradd Monnow eu cofnodi yn nogfennau'r cyngor ar ôl ymchwiliad gan lywodraethwyr.

Mae'r ddogfen yn cofnodi bod yr ysgol mewn cyflwr gwael, gyda'r ffenestri yn "disgyn i ddarnau" a thâp yn dal pibelli draenio gyda'i gilydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Casnewydd eu bod yn ymwybodol o'r mater ond nad oedd yr ysgol yn un o'r prif flaenoriaethau oherwydd diffyg cyllid.

'Sioc enfawr'

Cafodd llywodraethwyr yr ysgol "sioc" o weld sut gyflwr oedd yr ysgol ynddi ar ôl ymchwiliad iechyd a diogelwch yn 2018.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Janet Cleverley nad yw'r ysgol yn addas i blant

Dywedodd y cynghorydd Janet Cleverley bod 'na broblemau "iechyd a diogelwch" yn yr ysgol a'i bod mewn "angen dybryd".

"Roedd y pren yn disgyn i ddarnau a ddechreuais i boeni y gall llygod ddod i mewn i'r adeilad"

"Dyw'r adeilad ddim yn addas ar gyfer plant. Mae'n rhaid eu bod nhw'n rhynnu ar ôl y tywydd oer diweddar."

Ffynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Mae llygod mawr yn broblem yn yr ardal ers tro, yn ôl rhieni a llywodraethwyr

Doedd y pryder dros lygod mawr ddim yn sioc i Catherine Bevan, sy'n fam i un o ddisgyblion yr ysgol.

"Dwi ond yn byw dau funud o'r ysgol, ac yn gallu gweld y golau gwyrdd sydd reit o'i blaen. Mae 'na lygod yna bob tro."

'Ddim yn achos unigryw'

Yn gynharach yn 2019, dywedodd y cynghorydd Gail Giles, sy'n aelod cabinet dros addysg a sgiliau, ei bod yn ymwybodol o'r problemau ond bod dim arian ar gael ar hyn o bryd.

"Yn anffodus dyw'r achos yma ddim yn un unigryw, gan fod 'na alw am waith adnewyddu angen ei wneud yn llawer o ysgolion yr ardal," meddai.

Ychwanegodd nad yw'r ffenestri sydd wedi dirywio ar "flaen y rhestr o flaenoriaethau", a bod y "ffenestri yn annhebygol o dderbyn buddsoddiad am gryn amser".

Dywedodd y llywodraethwyr bod eu pryder dros lygod mawr yn deillio o'r ffaith bod problem fermin yn yr ardal yn barod.

Yn ôl llefarydd o Gyngor Casnewydd mae "materion cynnal a chadw pob ysgol yng Nghasnewydd yn cael eu cofnodi" ac maen nhw'n ymwybodol o'r problemau yn Ysgol Monnow.

"Mae'r mater yma ar gynllun cynnal a chadw'r cyngor, ond oherwydd cyllid cyfyngedig dyw e ddim yn un o'n prif flaenoriaethau.

"Rydym ar ganol cynnal arolwg yn yr ysgol er mwyn gweld os oes rhagor o broblemau sydd angen eu nodi yn ein cynllun cynnal a chadw."

Ni wnaeth Ysgol Gynradd Monnow gynnig sylwadau ar y mater.