Gweithdai rygbi yn gais i ddenu 3,000 o ferched i chwarae
- Cyhoeddwyd
Mae dros 3,000 o ferched o dros Gymru wedi cael blas ar rygbi wrth i Undeb Rygbi Cymru gynnal gweithdai arbennig dros yr wythnos diwethaf.
Bwriad Rookie Rugby ydy galluogi merched oed cynradd ac uwchradd i gadw'n heini a rhoi cynnig ar y gamp.
Yn ôl hyfforddwr, fe all y cynllun greu'r llwybrau i "sêr y dyfodol".
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru eu bod yn gobeithio i'r gweithdai annog mwy o ferched i fod â diddordeb hirdymor yn y gamp.
Dros y dyddiau diwethaf cafodd disgyblion o bob oedran gyfle i ymgynnull mewn ymarferion rygbi ar draws Cymru.
Yn ôl Geraint John o Undeb Rygbi Cymru, bwriad y gweithdai ydy annog merched i "gadw'n heini ac yn iach".
Dywedodd Mr John: "Ni moyn iddyn nhw fynd adre' a dweud wrth eu mamau a tadau eu bod nhw wedi chwarae tipyn bach o rygbi.
"Bydde'n braf clywed nhw'n siarad yn yr ysgol yn trafod y gêm, efallai eu gweld nhw yn yr Arms Park mewn pythefnos pan fydd Cymru yn chwarae Lloegr."
'Cyfle arbennig'
I ddwy disgybl o Ysgol Bro Edern, Caerdydd, roedd y gweithdai yn gyfle i greu "ffrindiau" a "sgiliau newydd".
"Dwi'n gobeithio eu defnyddio [y sgiliau] yn y dyfodol. Gobeithio rhyw ddydd cael chwarae i glwb," meddai Elin.
Cai Milsom, Swyddog Hwb Rygbi Ysgol Bro Edern oedd yn gyfrifol am fynd a'r merched i'r gweithdy.
Dywedodd nad oedd llawer o'r merched heb "afael mewn pêl-rygbi" cyn mynychu.
Dywedodd ei fod yn gyfle i'r rhai oedd ddim yn hoffi "campau traddodiadol" i roi cynnig ar gamp wahanol.
"Mae hwn yn gyfle arbennig falle iddyn nhw fynd mewn i rygbi yn y pendraw.
"Mae Tîm Rygbi Merched Cymru yn ifanc ac mae angen gwthio'r merched yma i fod yn sêr y dyfodol," meddai.
Fe fydd Tîm Merched Rygbi Cymru yn herio Yr Eidal nos Sadwrn 9 Chwefror am 19:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2019