Apêl i greu casgliad o gerddoriaeth i henoed Cymru
- Cyhoeddwyd
Fel rhan o Ddiwrnod Miwsig Cymru 2019 mae Prifysgol Bangor a mudiad Merched y Wawr yn gweithio ar y cyd i greu cryno ddisg o ganeuon arbennig ar gyfer cartrefi gofal ar draws Cymru.
Mae'r ymgyrch yn rhan o waith dementia Prifysgol Bangor ar wella safon bywyd pobl sydd yn byw â'r cyflwr.
Dywedodd Dr Catrin Hedd Jones bod modd gweld "newid syfrdanol" mewn pobl â dementia pan maen nhw'n gwrando ar gerddoriaeth.
Mae'r apêl yn gofyn i'r cyhoedd gysylltu gyda'u hawgrymiadau o'u hoff ganeuon Cymraeg o bob cyfnod.
Fe fydd yr awgrymiadau mwyaf poblogaidd yn cael eu casglu er mwyn creu CD ac adnodd digidol i'w lawrlwytho a'i rannu mewn cartrefi gofal.
Dywedodd Dr Catrin Jones, o adran seicoleg Prifysgol Bangor, sy'n arwain y prosiect: "Os ydy dementia neu Alzheimer's yn effeithio ar rannau o'r ymennydd, mae 'na rannau eraill sydd dal â chyswllt â cherddoriaeth.
"Mae mor bwysig - da chi'n gweld pobl sydd â'r cyflwr wedi datblygu, ond rhowch chi gân sy'n bersonol iddyn nhw ac mi welwch chi newid syfrdanol."
Bu dathliadau Dydd Miwsig Cymru yng Nghartref Gofal Hafan y Waun, sy'n darparu gofal preswyl i bobl sy'n byw gyda dementia.
Dywedodd rhai o breswylwyr y cartref bod cerddoriaeth yn rhoi'r cyfle iddyn nhw ddod at ei gilydd.
I un, roedd rhai o'r emynau yn dod at atgofion "melys" i'r cof.
'Adnodd cynhwysfawr'
Mae'r prosiect yn cael ei gyllido gan Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia'r brifysgol, Merched y Wawr a Dydd Miwsig Cymru.
Yn ôl Alistair O'Mahoney, sy'n gweithio ar y prosiect, mae angen sicrhau bod "ystod o gyfnodau cerddorol i'r cenedlaethau hŷn" ar gael ar gyfryngau digidol.
"Wrth greu'r fath adnodd cynhwysfawr, mae modd cyfrannu'n gadarnhaol at iechyd a lles cyffredinol y cenedlaethau hŷn sy'n byw â dementia," meddai.
Bwriad yr ymgyrch yw cyd-weithio â chwmni Sain, ond hefyd i ddefnyddio rhai recordiadau o gasgliad Archif Bop Prifysgol Bangor.
Bydd y CD gorffenedig yn cael ei lansio yn ddiweddarach yn y flwyddyn.