Apêl wedi ymosodiad ar ddyn anabl ym Mannau Brycheiniog
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Bowys wedi apelio am help y cyhoedd wedi ymosodiad honedig ar ei chymar anabl gan berchennog ci ar un o fynyddoedd uchaf Bannau Brycheiniog.
Dywed Natalie Tovell o Gwm-twrch bod dyn wedi bygwth lladd Frasier Murphy wrth ei wthio a'i ddyrnu sawl tro, er iddi apelio arno i stopio am fod ei chymar yn anabl.
Mae'r cwpwl yn cerdded yn yr ardal gyda chi cymorth bob wythnos fel rhan o adferiad Mr Murphy, 46, wedi anaf i'w ymennydd yn 2016 sy'n amharu ar ei olwg a'i allu i gyfathrebu.
Mae Ms Tovell yn honni i'r dyn ymateb yn dreisgar wedi iddi ofyn i fenyw oedd gydag e i sicrhau bod eu ci nhw ar dennyn, ac mae wedi rhoi manylion y digwyddiad i'r heddlu.
Mae Mr Murphy yn rhannol ddall, ac mae plât titaniwm wedi ei osod yn ei ben yn sgil colli rhan o'r ymennydd a'r ben-glog.
'Ar dennyn hir'
Roedd y cwpwl rhyw 50 metr o gopa Corn Du ar ôl cychwyn cerdded o Storey Arms ddydd Sul, 10 Chwefror pan welson nhw ddyn a menyw yn dod tuag atyn nhw gyda chi "brîd Nordig".
Dywedodd Ms Tovell ei bod yn arfer gofyn wrth berchnogion cŵn i'w rheoli wrth ymyl ei chymar, er mwyn osgoi mynd â sylw ei lamgi (springer spaniel) cymorth.
"Rydw i'n aml yn nerfus wrth ofyn oherwydd mae pobl weithiau yn ddiystyrllyd," meddai. "Dydw i ddim yn credu eu bod yn deall sut beth yw bod yn anabl."
Roedd y ci ar dennyn hir, meddai, ac "fe redodd a chau ei geg ar wddf ein ci ni. Ro'n i'n gweiddi i dynnu'r ci oddi arno, ac fe redes i i'w gwahanu.
"Rhedodd y dyn tuag aton ni a gwthio Fraiser. Syrthiodd yn ôl a dyna pryd wnaeth e ddyrnu ei ben."
Mae Ms Tovell yn honni i'r dyn fygwth lladd Mr Murphy, oedd bellach ar ymyl y llwybr, ac fe floeddiodd "mae'n anabl" ac erfyn ar y dyn i beidio â'i daro.
Wedi hynny, mae'n honni, fe gafodd hi ei hun ei gwthio o'r ffordd ac fe ddyrnodd y dyn Mr Murphy nifer o weithiau yn rhagor.
Roedd y fenyw, meddai, bellach yn eistedd ac fe ddywedodd hithau, "peidiwch â chyffwrdd yn fy nghi i".
'Rwy' dal mewn sioc'
Cyn i'r dyn adael gyda'r fenyw, fe ddywedodd wrth Mr Murphy ei fod "eisiau ei wthio dros ymyl" y bryn, yn ôl Ms Tovell.
Roedd Mr Murphy wedi ei ysgwyd yn llwyr o ganlyniad i'r digwyddiad, ac fe gymrodd ddwy awr a hanner iddyn nhw ddychwelyd i waelod y mynydd, gyda chymorth cerddwyr eraill.
Fe alwodd yr heddlu am 09:30 ddydd Sul a rhoi datganiad llawn wedi hynny, ac mae wedi cyhoeddi disgrifiad o'r dyn ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae'r digwyddiad wedi gadael ei ôl ar Mr Murphy, medd Ms Tovell.
"Fy ofn mwyaf yw nad yw eisiau gadael y tŷ byth eto. Mae e wedi'i ddarbwyllo bod y bobl hyn wedi ei dargedu. Mae'n cymryd amser hir iddo brosesu pethe.
"Galla i ddim stopio meddwl am y peth - ro'n i'n meddwl bod e'n mynd i'w wthio [i lawr y mynydd].
"Mae ganddo anabledd amlwg iawn. Rwy' ffili gweld sut gall unrhyw un wneud hynny iddo, Rwy'n dal mewn sioc."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2018