Bwriad i gau rhai ysgolion Penfro yn gynt bob dydd Gwener
- Cyhoeddwyd
Bydd rhai ysgolion yn Sir Benfro yn cau amser cinio bob dydd Gwener o dan gynlluniau newydd.
Mae clwstwr o ysgolion yn Aberdaugleddau yn bwriadu gwneud cyfres o newidiadau i'w hamseroedd agor.
Yn ôl llythyr i rieni plant Ysgol Gymunedol Neyland yr wythnos hon, bydd yr ysgol yn cychwyn am 08:45 ac yn gorffen 15:10/20 o ddydd Llun i ddydd Iau.
Ar ddydd Gwener, bydd y feithrinfa a chyfnod allweddol dau yn gorffen am 12:15 neu 12:25.
Yn ôl Cyngor Sir Penfro mae Ysgol Harri Tudur ac Ysgol Gymunedol Doc Penfro eisoes yn gweithredu ar amserlenni tebyg i'r rhai sy'n cael eu hawgrymu.
Ychwanegodd llefarydd mai nod allweddol y cynigion yw "i ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer hyfforddi staff" yn hytrach na'u bod yn rhan o unrhyw ymarfer torri costau.
'Cyffrous a heriol'
Bydd cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru ac mae angen i ysgolion "gyflwyno'r cyfleoedd dysgu ac addysgu newydd cyffrous a heriol i ddisgyblion a staff", meddai'r llythyr.
Dywedodd yr ysgol y bydd nifer yr oriau dysgu yn parhau i fod yn fwy na'r hyn sy'n cael ei awgrymu gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r clwstwr o ysgolion sy'n bwriadu gwneud newidiadau tebyg yn cynnwys Coastlands, Gelliswick, Ysgol Gynradd Gymunedol Aberdaugleddau, Ysgol Gatholig Sant Ffransis, Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston ac ysgol Neyland.