Dyn o Ynys Môn yn euog o droseddau rhyw yn erbyn plant

  • Cyhoeddwyd
David HayesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David Hayes i arestio yn Granada, Sbaen

Mae dyn 40 oed o Ynys Môn wedi ei gael yn euog o nifer o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth, cafwyd David Hayes yn euog o'r 12 cyhuddiad yn ei erbyn.

Cafodd Hayes ei arestio yn Sbaen ym mis Gorffennaf ar ôl i warant Ewropeaidd gael ei chyhoeddi.

Ar ôl cyfnod o dair blynedd ar ffo, cafodd ei ddarganfod tra'n gweithio fel athro Saesneg preifat dan enw ffug.

Roedd Hayes yn arfer bod yn swyddog y wasg gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Bangor.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Mawrth.