Ymchwilio i orchymyn gwahardd y Gymraeg gyda chleifion
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio ar ôl i gartref gofal yn Ystradgynlais ddweud wrth eu staff i beidio â siarad Cymraeg o flaen y cleifion.
Mae rheolwyr cartref Isfryn yn dweud y gwnaethon nhw hynny er mwyn osgoi drysu cleifion wrth iddyn nhw wella, ond mi fyddan nhw'n ailedrych ar y penderfyniad.
Y darparwyr iechyd Accomplish sy'n gyfrifol am y cartref, sy'n cynnig gofal i bobl sydd wedi dioddef o anafiadau i'r ymennydd.
Mewn datganiad maen nhw'n dweud y cawson nhw eu sefydlu yng Nghymru dros 30 mlynedd yn ôl, a bod ganddyn nhw barch mawr at y Gymraeg a diwylliant Cymru.
'Anawsterau cyfathrebu'
Mae'r cwmni'n darparu hyfforddiant yn Gymraeg ac yn cynnig cwrs i gyflwyno'r iaith i'w staff.
Mae'r datganiad yn ychwanegu bod "gan bobl yn Isfryn anawsterau cyfathrebu ac ar hyn o bryd ond yn deall Saesneg".
"Gan mai Isfryn ydy eu cartref, roedd 'na bryder na fydd y bobl sy'n cael cefnogaeth yn deall pam bod staff yn siarad iaith ar wahân i'r Saesneg, ac y gall gwneud hynny achosi dryswch neu boendod all, o bosib, amharu ar eu gwellhad."
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wedi cyfeirio at Fesur y Gymraeg - a ddaeth i rym wyth mlynedd yn ôl - sy'n dweud bod rhyddid gan ddau neu fwy o bobl i siarad Cymraeg â'i gilydd yng Nghymru.
Yn ei datganiad hithau mae'n dweud: "Os yw rhywun, er enghraifft cyflogwr, yn dweud wrthynt na ddylent barhau i ddefnyddio'r Gymraeg, mae'n bosibl eu bod yn amharu ar y rhyddid hwnnw.
"Mae Mesur y Gymraeg yn rhoi pwerau statudol i mi fel Comisiynydd i ymchwilio i achosion o'r fath.
"O'r dystiolaeth rwyf wedi ei gweld heddiw, mae'n ymddangos efallai bod yna achos o ymyrryd â rhyddid y staff i ddefnyddio'r Gymraeg yn Isfryn, Accomplish."
Ychwanegodd Ms Huws y byddai'n cysylltu gyda'r cartref i "gasglu mwy o wybodaeth er mwyn deall y sefyllfa yn llawn".
"Hefyd, hoffwn annog unrhyw un sy'n cael ei effeithio i gysylltu â'm swyddfa er mwyn inni allu ymchwilio'n llawn i'r mater."
Mae Accomplish Group yn dweud y byddan nhw'n ailedrych ar y penderfyniad a wnaed o ran defnyddio'r Gymraeg ac yn cydweithio â staff a'r awdurdodau perthnasol o ran cael hyd i'r ffordd ymlaen.
Maen nhw hefyd yn dweud na fyddai'r un aelod o'r staff wedi cael ei ddisgyblu am siarad Cymraeg yn y cartref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2019