Cymru'n herio Lloegr mewn 'gêm enfawr' yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd tîm rygbi Cymru'n ceisio creu record o ennill 12 gêm yn olynol wrth iddyn nhw herio Lloegr yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Ond mae perfformiadau cymysg Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad hyd yn hyn yn golygu mai'r ymwelwyr yw'r ffefrynnau.
Mae'r Saeson wedi gosod y safon gyda dwy fuddugoliaeth pwynt bonws dros Iwerddon a Ffrainc, tra bod Cymru wedi ennill dwy gêm agos yn erbyn y Ffrancwyr a'r Eidal.
Ond wrth i'r unig ddau dîm diguro herio'i gilydd, mae'n bosib iawn mai dyma'r gêm fydd yn penderfynu enillwyr y bencampwriaeth, ac o bosib y Gamp Lawn.
Mae Cymru wedi gwneud 11 newid i'r tîm buddugol yn Rhufain, gyda Gareth Ancombe yn cael ei ddewis yn hytrach na Dan Biggar fel maswr.
Dau newid felly sydd i'r tîm ddechreuodd y fuddugoliaeth yn erbyn Ffrainc, gyda Gareth Davies yn dechrau fel mewnwr a Cory Hill yn cymryd ei le yn yr ail reng.
Dau newid sydd i dîm Lloegr hefyd, gyda'r asgellwr Jack Nowell a'r prop Ben Moon yn cymryd lle dau sydd wedi'u hanafu - Chris Ashton a Mako Vunipola.
'Tîm gorau Cymru erioed'
Gyda Chymru'n gobeithio gosod record o ran nifer y buddugoliaethau yn olynol gan y tîm cenedlaethol, mae Lloegr yn mynd am record eu hunain.
Bydd buddugoliaeth i'r Saeson yng Nghaerdydd yn golygu eu bod wedi ennill chwe gêm o'r bron yn erbyn Cymru yn y bencampwriaeth - y tro cyntaf i hynny ddigwydd.
Dyw Cymru ddim wedi curo Lloegr yn y Chwe Gwlad ers y fuddugoliaeth enwog 30-3 yn 2013.
Er mai nhw yw'r ffefrynnau, mae prif hyfforddwr Lloegr, Eddie Jones, wedi bod yn ceisio rhoi'r pwysau ar eu gwrthwynebwyr gan ddweud mai dyma yw "o bosib tîm gorau Cymru erioed".
Ond chwerthin wnaeth Warren Gatland pan gafodd ei holi am hynny mewn cynhadledd i'r wasg yr wythnos yma, gan fynnu mai Jones yn unig sy'n dweud hynny.
"Ry'n ni'n gwybod pa mor bwysig yw'r gêm yma ar gyfer gweddill y bencampwriaeth," meddai prif hyfforddwr Cymru.
"Mae'r gêm enfawr yn erbyn tîm Lloegr sy'n chwarae'n dda gyda llawer o hyder, ac mae'n rhaid i ni ei gwneud hi'n anodd iddyn nhw."
Bydd y gic gyntaf yn Stadiwm Principality am 16:45 ddydd Sadwrn.
Tîm Cymru
Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Gareth Anscombe, Gareth Davies; Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis, Cory Hill, Alun Wyn Jones (C), Josh Navidi, Justin Tipuric, Ross Moriarty.
Eilyddion: Elliot Dee, Nicky Smith, Samson Lee, Dillon Lewis, Adam Beard, Aaron Wainwright, Aled Davies, Dan Biggar, Owen Watkin.
Tîm Lloegr
Elliot Daly; Jack Nowell, Henry Slade, Manu Tuilagi, Johnny May; Owen Farrell (C), Ben Youngs; Ben Moon, Jamie George, Kyle Sinckler, Courtney Lawes, George Kruis, Mark Wilson, Tom Curry, Billy Vunipola.
Eilyddion: Luke Cowan-Dickie, Ellis Genge, Harry Williams, Joe Launchbury, Brad Shields, Dan Robson, George Ford, Joe Cokanasiga.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2019