Prawf lewcemia Caerdydd i 'newid triniaeth canser'

  • Cyhoeddwyd
Dynes yn derbyn triniaethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gallai'r prawf wella'r gofal sy'n cael ei roi i gleifion â chyflyrau fel myeloma a chanser y fron hefyd

Gall prawf sy'n gallu rhagweld yn gyflym sut y bydd pobl â lewcemia yn ymateb i gemotherapi newid y ffordd mae rhai mathau o ganser yn cael eu trin, yn ôl ymchwilwyr.

Dywedodd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd y gallai'r prawf manwl helpu meddygon i benderfynu pa gyffuriau i'w rhoi i gleifion.

Ychwanegon nhw y gallai wella'r gofal sy'n cael ei roi i gleifion â chyflyrau eraill fel myeloma a chanser y fron.

Mae lewcemia yn ganser ar y gwaed sy'n gallu cael effaith ar y system imiwnedd.

Mae'r math mwyaf cyffredin, CLL yn datblygu ar gyflymder gwahanol i bob claf.

'Triniaethau mwy priodol'

Bydd y prawf newydd yn gallu dangos yn fanwl pa mor gyflym y bydd y canser yn datblygu ym mhob claf unigol.

Cyn hyn roedd hi'n cymryd wythnos i brosesu'r canlyniadau, ond mae canlyniadau'r prawf yma ar gael o fewn diwrnod.

Dywedodd yr Athro Duncan Baird o Brifysgol Caerdydd: "Dyw pob claf ddim yn cael yr un budd o gemotherapi a'r prawf yma yw'r unig un ar gael sy'n gallu rhagweld yn fanwl sut mae cleifion yn debygol o ymateb.

"Mae ein hymchwil yn dangos y dylai nifer sylweddol o gleifion fod yn derbyn triniaethau mwy priodol."