Dim statws rhestredig i hen orsaf heddlu Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf heddluFfynhonnell y llun, Google

Dydy hen orsaf heddlu Wrecsam ddim yn adeilad y dylid ei restru, yn ôl y corff sy'n gwarchod adeiladau hanesyddol Cymru.

Roedd Cadw wedi derbyn cais i ystyried rhestru'r adeilad aml-lawr sy'n wag ers mis Ionawr - cam a fyddai wedi rhoi stop ar gynlluniau archfarchnad Lidl i ddymchwel yr adeilad ar gyfer siop.

Fe rybuddiodd Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Arfon Jones y byddai colli'r arian o werthu'r safle yn cael "effaith uniongyrchol" ar wasanaeth plismona'r rhanbarth.

Gan groesawu'r cadarnhâd nad yw Cadw o'r farn bod yr adeilad yn haeddu cael statws rhestredig ar sail pensaernïol neu hanesyddol, dywedodd Mr Jones bod un maen tramgwydd posib pellach wedi ei oresgyn.

'Synnwyr cyffredin'

"Mae'r hinsawdd ariannol yn ddigon anodd fel ag y mae ac felly mae hyn yn newyddion ardderchog," meddai.

"Rwy'n ddiolchgar i Cadw am eu synnwyr cyffredin wrth ystyried a phenderfynu ar y mater."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Arfon Jones wedi pwysleisio arwyddocâd dymchwel yr adeilad i gais cynllunio Lidl i brynu'r safle gan Heddlu'r Gogledd

Roedd Mr Jones a Phrif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd, Carl Foulkes wedi danfon llythyr at adran ddiwylliant Llywodraeth Cymru yn gofyn am eglurder ynghylch y sefyllfa.

Mae llythyr gan ddirprwy gyfarwyddwr Cadw - y corff sy'n gofalu am faterion amgylchedd hanesyddol ar ran Llywodraeth Cymru - wedi ymddiheuro am oedi cyn ymateb.

'Ddim yn ddigon cain neu flaengar'

Dywedodd Gwilym Hughes yn y llythyr: "Gallaf gadarnhau nad ydym o'r farn bod yr adeilad yn cyrraedd y meini prawf i gael ei restru.

"Rydym yn cydnabod bod yr adeilad yn esiampl brin ac, o bosib, unigryw o'r dyluniad slab and podium yng Nghymru...

"Fodd bynnag... o gymharu'r adeilad yma ag esiamplau eraill sydd â'r un egwyddorion dylunio sylfaenol drwy'r Deyrnas Unedig... dyw'r adeilad ddim yn cymharu'n ffafriol ag adeiladau eraill tebyg sydd yn fwy soffistigedig a chain."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lidl yn gobeithio codi siop 1,325 medr sgwâr a siop goffi i yrwyr ar y safle

"Nodwn hefyd nad oedd y dyluniad slab and podium yn flaengar yn bensaernïol erbyn i'r adeilad gael ei gwblhau yn 1976 ac felly, ar y cyfan, nid ydym o'r farn bod yr adeilad yn cwrdd â meini prawf ei restru fel esiampl allweddol o adeilad dinesig wedi rhyfel.

"Wedi dweud hynny, mae'r adeilad yn amlwg o ddiddordeb ac roeddem yn falch o glywed bod Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn y broses o drafod cael mynediad i arolygu'r adeilad er mwyn creu cofnod ohono."

Mae Lidl wedi cytuno i brynu'r safle ar yr amod bod y cwmni'n sicrhau caniatâd cynllunio i ddymchwel yr hen orsaf heddlu a chodi siop newydd ar y safle,

Mae'r cyfnod sy'n berthnasol i'r caniatâd cynllunio a roddwyd yn 2014 i ddymchwel yr adeilad presennol yn dod i ben ym Mehefin.