Carcharu gwerthwr ceir Bangor am dwyllo cwsmeriaid

  • Cyhoeddwyd
Gwyn RobertsFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Gwyn Roberts yn euog o 23 cyhuddiad o dwyll a masnachu twyllodrus

Mae gwerthwr ceir o Gyffordd Llandudno wedi cael ei ddedfrydu i saith mlynedd o garchar am dwyllo cwsmeriaid.

Fe wnaeth Gwyn Meirion Roberts, 50, gynnig bargeinion "anghredadwy" i gwsmeriaid i gael arian wedi i'w fusnes, Menai Vehicle Solutions ym Mangor, fynd i drafferthion yn 2015.

Fe gollodd dros 50 o bobl fwy na £722,000 ar ôl i Roberts fethu a chyflawni'r "bargeinion" hyn.

Roedd gan Menai Vehicle Solutions golledion o dros £1.2m.

Cafwyd Roberts yn euog o 23 cyhuddiad o dwyll a masnachu twyllodrus yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth.

Dywedodd y Ditectif Ringyll Christopher Hargrave: "Gwyddai [Roberts] pan oedd yn gwneud yr addewidion fod risg sylweddol i arian y dioddefwyr.

"Roedd ei fasnachu parhaol, er bod y busnes wedi methu, ond yn ymgais i gynnal ei falchder a'i ffordd o fyw."

Ychwanegodd y barnwr Huw Rees mai'r elfen drist yma oedd y ffaith bod Roberts wedi twyllo pobl oedd wedi bod yn gwsmeriaid ffyddlon iddo ers blynyddoedd.